Datblygiad Gwefan

L2 Lefel 2
Rhan Amser
4 Tachwedd 2026 — 6 Ionawr 2027
Ar-lein
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Datblygu gwefannau lefel 2 yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dilyn gyrfa fel datblygwr gwefannau, neu rywun sydd eisiau diweddaru eu gwybodaeth bresennol.  Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu codau HTML 5 a CSS 3 yn llwyddiannus.  Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i dechnegau datblygu gwefan ymatebol sy'n galluogi'r wefan i ymateb i faint y sgrin.

Mae hwn yn gwrs ymarferol iawn, gyda llawer o heriau codio i brofi eich sgiliau wrth i chi fynd yn eich blaen.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:

1.            Gynllunio a dylunio gwefan

 2.           Datblygu gwefan gan ddefnyddio technegau HTML 5 a CSS 3

3.            Profi a gwerthuso effeithiolrwydd y wefan

4.            Deall hawlfraint a chyfyngiadau eraill all effeithio ar y wefan

5.            Paratoi cynnwys ar gyfer tudalennau gwe megis delweddau

Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan Agored Cymru.

Bydd tiwtor yn addysgu'r cwrs hwn o bell dros Microsoft Teams.  Ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs hwn.  Fodd bynnag, byddwch angen cyfrifiadur sy'n gweithio gyda seinyddion a mynediad at y Rhyngrwyd.  Byddai meicroffon yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £16.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £55.00

Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £27.50

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd yn y pwnc a bod yn barod i astudio yn annibynnol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Tachwedd 2026

Dyddiad gorffen

6 Ionawr 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Cod y cwrs

ITCC2P28
L2

Cymhwyster

Website Development

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).