Dyfarniad Sylfaen BCS: Sut Gall AI Gefnogi Eich Sefydliad

L3 Lefel 3
Rhan Amser
18 Ionawr 2027 — 22 Chwefror 2027
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl broffesiynol sydd eisiau deall deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â’i roi ar waith ac arwain y gwaith o’i ddefnyddio mewn sefydliad. Mae’n berffaith i unigolion sy’n ymwneud â phrosiectau AI ar hyn o bryd, y rhai sy’n pontio i rolau sy’n canolbwyntio ar AI, neu arweinwyr digidol sy’n ceisio deall effaith AI ar eu cyfrifoldebau. 

Mae’r cwrs hefyd yn addas iawn i weithwyr proffesiynol technoleg sydd awydd sicrhau bod eu sgiliau’n addas ar gyfer y dyfodol a chefnogi arloesedd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS). Er mwyn ennill ardystiad, mae’n rhaid i ddysgwyr sefyll arholiad byr cwestiynau amlddewis a llwyddo ynddo. Mae modd ei wneud o bell. Caiff y cwrs ei addysgu ar-lein drwy Microsoft Teams, sy’n rhoi ffordd hyblyg o ymuno, waeth lle mae’r dysgwyr.

Bydd y cwrs yn edrych ar y pethau hyn:

  • Sut y mae deallusrwydd artiffisial yn ail-lywio sefydliadau modern. 
  • Mae’n ystyried dylanwad cynyddol AI ar draws swyddogaethau busnes, gan helpu dysgwyr i ddeall ei gymwysiadau ar hyn o bryd a’i botensial ar gyfer y dyfodol. 
  • Trwy gydol y dyfarniad, fe gewch gipolygon ar esblygiad AI, siâp a strwythur sefydliadau, y rôl y mae AI yn ei chwarae o ran cefnogi nodau busnes, yn ogystal â thechnegau i asesu’r amgylchedd busnes. 
  • Mae’r cwrs hefyd yn annog dysgwyr i ystyried “beth sy’n bosibl”, gan nodi cyfleoedd lle y gall AI arwain arloesedd, gwella effeithlonrwydd, a chreu mantais gystadleuol.

Gofynion mynediad

TGAU Saesneg o leiaf gradd C.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Ionawr 2027

Dyddiad gorffen

22 Chwefror 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P24
L3

Cymhwyster

BCS Foundation Award: How AI Can Support Your Organisation

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Mae’r dyfarniad hwn yn un o bedwar o Ddyfarniadau Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) yn y Gyfres Sylfaen AI. Wrth gwblhau’r pedwar dyfarniad rydym yn eu cynnig a llwyddo ynddynt, gall dysgwyr gyflawni’r Dystysgrif Sylfaen BCS mewn Deallusrwydd Artiffisial, sy’n rhoi gwybodaeth sylfaenol gadarn am y cysyniadau, y cymwysiadau, a’r technolegau allweddol sy’n sail i AI yng ngweithle heddiw.