Rhaglennu C++

L2 Lefel 2
Rhan Amser
13 Mawrth 2025 — 3 Gorffennaf 2025
Ar-lein
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Rhaglennu C++ lefel 2 yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu sgiliau rhaglennu i safon diwydiant.  Byddwch yn dysgu un o'r ieithoedd rhaglennu mwyaf amlwg sy'n hynod ddymunol o fewn y gweithle.    Mae hwn yn gwrs ymarferol tu hwnt, gyda llawer o heriau codio i brofi eich sgiliau wrth i chi fynd yn eich blaen.  Byddwn yn canolbwyntio ar godio gweithdrefnol ar gyfer y cwrs hwn.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau perfformio a gwybodaeth mewn:

  1. Newidynnau a strwythurau data
  2. Strwythurau rheoli (e.e. datganiadau OS, dolennau)
  3. Rheoli ffeiliau
  4. Boole a gweithredwyr rhesymegol
  5. Swyddogaethau
  6. Technegau codio cadarn
  7. Offer dadfygio
  8. Dulliau profi

Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn cael tystysgrif gan Agored Cymru.
Gellir addysgu'r cwrs gyda thiwtor o bell neu o fewn y dosbarth.  Pe byddwch yn dewis addysgu o bell, ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs.  Fodd bynnag, byddwch angen cyfrifiadur sy'n gweithio gyda seinyddion a mynediad at y Rhyngrwyd.  Byddai meicroffon yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.
Rydym yn cynnig cwrs amgen ar yr un lefel, sef Rhaglennu Python.  Rydym hefyd yn cynnig fersiwn rhagarweiniol o'r cwrs, o'r enw "Cyflwyniad i Godio C++".

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd yn y pwnc a bod yn barod i astudio yn annibynnol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

13 Mawrth 2025

Dyddiad gorffen

3 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ITCC2P20
L2

Cymhwyster

CK32CY012 Basic Command Line Programming (within a console)

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein