Dyfarniad Sylfaen y BCS: Dysgu Peirianyddol

L3 Lefel 3
Rhan Amser
16 Tachwedd 2026 — 14 Rhagfyr 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i ymgeiswyr sy’n dymuno datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r agweddau technegol ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) neu ennill dealltwriaeth o’i gydrannau craidd. Mae hefyd yn addas i weithwyr busnes proffesiynol sy’n dymuno symud i swyddi sy’n ymwneud ag AI ac ehangu eu cyfleoedd gyrfa yn y maes hwn sy’n tyfu’n gyflym.

Yn ogystal â hynny, bydd unigolion â diddordeb mewn AI a chefndir mewn gwyddoniaeth, peirianneg, peirianneg gwybodaeth, cyllid, addysg neu wasanaethau TG yn elwa ar y wybodaeth a’r sgiliau byddant yn eu hennill, gan eu galluogi i ddeall a defnyddio cysyniadau AI ar draws amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) wedi achredu'r cwrs hwn. I gael eu hardystio, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gwblhau arholiad aml-ddewis byr. Mae modd sefyll yr arholiad o bell. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu ar-lein ar Microsoft Teams, sy’n rhoi mynediad hyblyg i ddysgwyr mewn unrhyw leoliad.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • Beth yw dysgu peirianyddol a sut mae’n gweithio
  • Cysyniadau codio a thechnegau sy’n cael eu defnyddio mewn dysgu peirianyddol
  • Algorithmau dysgu peirianyddol cyffredinol a’u defnydd
  • Sut mae dysgu peirianyddol yn cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn
  • Ystyriaethau ymarferol ar gyfer rhoi atebion dysgu peirianyddol ar waith

Mae’r dyfarniad wedi’i ddylunio i adeiladu sylfaen gadarn mewn dysgu peirianyddol, gan eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gamu ymlaen ym maes AI, sy’n tyfu’n gyflym.

Gofynion mynediad

TGAU Saesneg o leiaf gradd C.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Tachwedd 2026

Dyddiad gorffen

14 Rhagfyr 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P27
L3

Cymhwyster

BCS Foundation Award: Award in Machine Learning

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Mae’r dyfarniad hwn yn un o bedwar dyfarniad Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain yn y Gyfres Sylfaen Deallusrwydd Artiffisial. Drwy lwyddo i ennill pob un o’r pedwar dyfarniad rydyn ni’n eu cynnig, gall dysgwyr ennill Tystysgrif Sylfaen y BCS mewn Deallusrwydd Artiffisial, gan roi sylfaen gadarn iddynt yn y prif gysyniadau, defnyddiau a thechnolegau sy’n sail i ddeallusrwydd artiffisial (AI) yng ngweithleoedd y byd sydd ohoni.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE