Excel Uwch: Meistrolwch Nodweddion Mwyaf Pwerus Excel
Ewch â’ch arbenigedd yn Excel i’r lefel nesaf gyda’n cwrs Excel Uwch. Wedi’i ddylunio ar gyfer defnyddwyr Excel hyderus, mae’r cwrs hwn yn eich arfogi gyda’r sgiliau i fynd i’r afael â heriau data cymhleth, symleiddio llif gwaith a chreu adroddiadau proffesiynol sy’n seiliedig ar ddata. Dysgwch weithrediadau a fformiwlâu ar lefel uwch, datglowch botensial llawn PivotTables a PivotCharts, ac ewch ati i wella cyflwyniad data gydag adnoddau fel Sparklines a Cell Protection. Trwy ymarferion ymarferol, byddwch yn datblygu’r hyder i weithio’n ddoethach, dadansoddi data’n fwy effeithiol a gwneud y gorau o bŵer Excel yn y gweithle.
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4:00pm.
Os nad oes gennych liniadur, bydd un ar gael i chi ei ddefnyddio ar y diwrnod.
Mewnbynnu a Threfnu Data
Rheoli Data
Ffwythiannau a Fformiwlâu
Siartiau, Tablau Colynnu a Siartiau Colynnu
Ffi Cwrs: £150.00
Rydych chi’n gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi’n bodloni’r canlynol:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.