Mae ein cymhwyster lefel 2 mewn Cronfeydd Data gyda SQL yn gymhwyster rhan-amser wedi'i ddylunio ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau magu dealltwriaeth o ddelio â data o fewn System Rheoli Cronfeydd Data. Bydd hefyd yn archwilio'r defnydd o Iaith Ymholiadau Strwythurol (SQL) gyda phwyslais penodol ar ddatganiadau SELECT.
Bydd y cwrs hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau perfformio
Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn cael tystysgrif gan Agored Cymru.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu o bell trwy Microsoft Teams. Ni fydd rhaid i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs hwn ond byddwch angen cyfrifiadur Microsoft Windows a chysylltiad â’r Rhyngrwyd. Byddai cael meicroffon yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd yn y pwnc a bod yn barod i astudio yn annibynnol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.