Technoleg Ddigidol – UG ac A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r cwrs hwn yn annog ymgeiswyr i fod yn ddefnyddwyr TGCh deallus, yn datblygu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth TGCh. Efallai y bydd yn bosibl i ddysgwyr ddilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

Modiwl 1: Systemau Gwybodaeth

Mae'r adran hon yn ymwneud â chaffael gwybodaeth a dealltwriaeth o systemau gwybodaeth. A asesir trwy arholiad ysgrifenedig o ddwy awr a chwarter. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon yn ystod eu gwaith ymarferol yn Uned IT2, ac mae’n gweithredu fel sail ar gyfer Uned IT4 (*Defnydd ac Effaith TGCh), *ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n mynd ymlaen i Lefel A2.

Modiwl 2: Cyflwyno Gwybodaeth

Mae’r uned hon yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio caledwedd a rhaglenni meddalwedd TGCh i ddatrys problem yn ymwneud â thair tasg unigol: cynhyrchu (i) dogfen megis pamffled neu gylchgrawn (ii) dogfen yn cynnwys rheolweithiau awtomatig, megis llythyr postgyfuno (iii) cyflwyniad i gynulleidfa, megis gwefan neu sioe sleidiau.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: B B mewn TGAU TGCh

Addysgu ac Asesu

  • Un arholiad a gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F10
L3

Cymhwyster

WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Cyfrifiadureg
  • Seiberddiogelwch
  • Economeg
  • TGCh
  • Mathemateg
  • Ffiseg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE