Mae’r cwrs pobi hwn yn cynnwys cyfuniad o ddysgu ymarferol a theori, ynghyd â gwaith cartref ac elfennau o astudiaethau’r Gymraeg. Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn gydran orfodol, yn ogystal â phynciau ychwanegol sy’n ymwneud a’r diwydiant pobi.
Byddwch yn dilyn unedau o’r llwybr Tystysgrif Pobi FDQ a cyn cynhyrchu ystod o eitemau, yn cynnwys bara, bisgedi, cacennau a chrwst. Caiff asesiadau eu cynnal drwy waith theori a gwaith ymarferol parhaus, ynghyd ag arholiadau a gwaith cartref a osodir.
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
gwaith rhan amser neu lawn amser mewn becws, safon Uwch neu arlwyo a lletygarwch lefel 2 neu 3.