Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu’n awyddus i weithio mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n galluogi dysgwyr i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Mae'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r:
• Egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol.
• Llesiant
• Diogelu
• Ymarfer Proffesiynol
• Iechyd a Diogelwch
*Rhagofyniad am fynediad i’r cymhwyster ymarfer Oedolion lefel 2 neu 3.
Mynediad i ddyfais dysgu digidol ar gyfer danfon o bell.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i weithio o fewn y sector lle gellir cwblhau’r cymhwyster ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn llwyddo i ail-gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.