Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion

L3 Lefel 3
16 Ebrill 2027 — 31 Mai 2027
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ffordd bwysig o gefnogi gweithwyr a chydweithwyr gyda’u llesiant meddyliol. Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu’r sgiliau i ganfod pryd mae pobl eraill yn profi iechyd meddwl gwael a gwybodaeth am sut i fynd ati i ddechrau sgwrs i roi cefnogaeth briodol.

Byddwch yn dysgu fframwaith y cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a fydd yn rhoi’r hyder ichi gefnogi eraill ac a fydd yn meithrin eich ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl amrywiol y gall pobl eu profi.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth am iechyd meddwl ac ennill yr adnoddau i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i eraill, boed yn y gweithle neu yn y gymuned gyda ffrindiau a theulu.

Bydd cyfranogwyr angen mynediad at Microsoft Teams ar liniadur / cyfrifiadur a man tawel. Mae'r cwrs yn rhyngweithiol ac angen i ddysgwyr ddefnyddio eu gwe-gamerâu drwy gydol y sesiynau a chyfrannu at ystafelloedd trafod.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs drwy 2 sesiwn Weminar 3 awr dros Microsoft Teams.

Gweminar 1: Dydd Gwener 16 Ebrill, 9.30am - 12.30pm

Gweminar 2: Dydd Gwener 23 Ebrill, 9.30am - 12.30pm

Modiwlau’r Cwrs:

  • Modiwl 1: Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
  • Modiwl 2: Iselder
  • Modiwl 3: Gorbryder
  • Modiwl 4: Seicosis
  • Modiwl 5: Defnyddio Sylweddau

Mae’n rhaid i chi gwblhau rhai o’r modiwlau hyn cyn bob Gweminar neu ni fydd modd i chi ymuno.

Dysg cyn Gweminar 1: Modiwlau 1, 2 a 3 (2-3 awr)

Gweminar 1: Dydd Gwener 16 Ebrill, 9.30am - 12.30pm

  • Adolygu modiwlau 1, 2 a 3
  • Rôl y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Cymhwyso’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Hunanofal i’r Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

*Ni fydd dysgwyr yn gallu cyrchu Modiwlau 4 a 5 nes bod Gweminar 1 wedi’i chwblhau gyda’r mentor.

Dysg cyn Gweminar 2: Modiwlau 4 a 5 (2-3 awr)

Gweminar 2: Dydd Gwener 23 Ebrill, 9.30am - 12.30pm

  • Adolygu modiwlau 4 a 5
  • Stigma a beirniadaethau
  • Cymhwyso’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

*Noder, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn yr hyfforddiant, argymhellir bod gan gyfranogwyr lefel briodol o lesiant cyn mynychu.

*Mae hyfforddiant MHFA Wales wedi’i drwyddedu i gyfranogwyr sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru yn unig.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £165.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi: - Yn 19 oed neu'n hŷn - Yn byw neu'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd - Yn gallu defnyddio Microsoft Teams ar liniadur neu gyfrifiadur personol i ymuno - Yn gallu mynychu'r ddwy Weminar ac yn barod i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau trafodaethau grŵp - Yn barod i gwblhau gwaith cyn bob Gweminar - Yn teimlo'n gyfforddus 
yn trafod Iechyd Meddwl gydag eraill 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Ebrill 2027

Dyddiad gorffen

31 Mai 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSMHFA3P04
L3

Cymhwyster

eMental Health First Aid for Adults