Tystysgrif Genedlaethol Uwch Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar

L4 Lefel 4
Llawn Amser
9 Medi 2024 — 23 Mai 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Anelir y cymwysterau BTEC Pearson Cenedlaethol Uwch  mewn Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar at fyfyrwyr sy’n awyddus i barhau â’u haddysg drwy ddysgu cymhwysol. Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch yn darparu astudiaeth eang o’r sector addysg a gofal cynnar ac maent wedi’u dylunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dilyn neu ddatblygu gyrfa mewn ymarfer addysg a gofal cynnar neu feysydd perthnasol. Yn ogystal â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n sail i astudiaeth o’r sector addysg a gofal cynnar, mae’r cymwysterau BTEC Pearson Cenedlaethol Uwch yn rhoi profiad ar hyd a lled y sector i fyfyrwyr, a fydd yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth, datblygiad o fewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar Lefel 4 mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth eang o agweddau allweddol ar y sector addysg a gofal cynnar trwy wyth uned graidd, sy’n cynnwys un uned a aseswyd gan aseiniad a osodwyd gan Pearson. Yr unedau yw:

Uned 1: Datblygiad Personol a Phroffesiynol drwy Ymarfer Adlewyrchol

Uned 2: Amddiffyn Plant mewn Amgylcheddau Addysg a Gofal Cynnar

Uned 3: Chwarae a Dysgu yn ystod Plentyndod Cynnar

Uned 4: Cefnogi a Hyrwyddo Datblygiad Plant (Babis a Phlant Bach)

Uned 5: Cefnogi a Hyrwyddo Datblygiad Plant (Plant Ifanc)

Uned 6: Hyrwyddo Byw’n Iach

Uned 7: Paratoi ar gyfer Ymchwil*

Uned 8: Hyrwyddo Amgylcheddau Addysg a Gofal Cynnar Cynhwysol. *(’Uned 7: Paratoi ar gyfer Ymchwil’ yw’r aseiniad a osodir gan Pearson hefyd).

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £6,000.00

Gofynion mynediad

3 Lefel A neu gyfwerth mewn pynciau perthnasol, neu gymhwyster lefel 3 - Diploma Mynediad neu Ddiploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant.

Dulliau addysgu ac asesu

Asesir dysgwyr ar y cwrs hwn drwy gyfuniad o arsylwadau gweithle a Phortffolio Dysgu a Datblygiad Proffesiynol, ynghyd ag unedau asesu a phrosiect ymchwil a asesir yn allanol.

Disgwylir i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 2 gyfnod profiad gwaith gwerth o leiaf 375 awr y flwyddyn mewn lleoliad addas, felly mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) estynedig llawn yn ofynnol ar ddechrau’r cwrs. 

Cyfleusterau

Campws canol y ddinas yw campws mwyaf CAVC ac mae ganddo amrywiaeth eang o gyfleusterau i ddysgwyr eu mwynhau.

Bydd gan fyfyrwyr y cwrs hwn fynediad i Uned AU bwrpasol sy’n cynnwys Canolfan Dysgu Sgiliau (LSC) o safon uchel, ardal gymdeithasol i fyfyrwyr AU, mynediad at gyfleusterau TG a pharth astudiaeth dawel.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2024

Dyddiad gorffen

23 Mai 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

14 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACCC4F02
L4

Cymhwyster

HE Certificate in Early Childhood Education and Care

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Gall ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa fel gweithiwr cymorth gofal iechyd. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE