Tystysgrif Proffesiynol (ProfCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

L5 Lefel 5
Rhan Amser
11 Medi 2024 — 17 Mai 2026
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Drwy gwblhau'r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET), byddwch yn gymwys i addysgu o fewn y sector addysg bellach, addysg oedolion ac addysg alwedigaethol.  Mae'n gymhwyster llawn a gydnabyddir yn genedlaethol, sydd wedi ei ddylunio'n benodol i'r rhai sy'n ceisio addysgu pwnc galwedigaethol mewn meysydd megis Trin Gwallt a Harddwch, Adeiladu a Chynnal a Chadw Moduron.

Byddwch angen cymhwyster galwedigaethol lefel 3, a phrofiad mewn diwydiant/sector perthnasol i ymuno â'r cwrs.  Wedi gwneud hynny, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu o fewn eich pwnc.

Mae'n hanfodol bod cyfranogwyr yn sicrhau profiad gwaith addysgu cyn iddynt ddechrau'r rhaglen. 

Cysylltwch â Dawn Latham, tiwtor y cwrs, am ragor o wybodaeth, DLatham@cavc.ac.uk.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel athro o fewn y sector Ôl-orfodol, yn ogystal â darparu cyflwyniad i astudiaeth brifysgol mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Mae'r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg yn cynnwys chwe modiwl gwerth 20 credyd:


Cynllunio ar gyfer Dysgu

O fewn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i addysgu mewn theori ac ymarfer, gyda'r cyfle i roi cynnig ar bethau ac asesiad ymarferol.


Asesu ar gyfer Dysgu

Mae'r modiwl hwn yn eich galluogi chi i ddod i adnabod eich dysgwyr yn well, a chynllunio er mwyn bodloni eu gofynion.  Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi wrth ddefnyddio technoleg dysgu mewn modd creadigol ar gyfer asesu.


Datblygu Ymarfer Proffesiynol

Cynhelir y modiwl hwn drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n cynnwys cynllunio a rheoli gwerth 50 awr o sesiynau a addysgir, yn cynnwys cael eich arsylwi yn addysgu, gwerthuso a myfyrio ar eich ymarfer eich hun, a chynllunio gweithredu ar gyfer eich datblygiad personol.


Ymchwil yn Seiliedig ar Ymarfer

O fewn y modiwl hwn ceir 'blas' ar brosiect ymchwil.  Byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth achos dysgwr, ac yn datblygu sgiliau ymchwil megis cyfweld a chasglu data amgen, i'ch helpu chi ddysgu mwy am eich dysgwr ac effaith addysgu.


Llythrennedd ar gyfer Dysgu

Dyma gyfle i chi archwilio syniadau am y mathau gwahanol o gyfathrebu a llythrennedd (digidol, gweledol, graffig, ysgrifenedig etc.) yn eich bywyd bob dydd a'ch addysgu.  Asesir y modiwl drwy arddangosfa hwyliog a rhyngweithiol y byddwch yn cyfrannu ati.


Ymestyn Ymarfer Proffesiynol

Mae'n adeiladu ar eich dysgu proffesiynol mewn Datblygu Ymarfer Proffesiynol, wrth i chi barhau i gynllunio, addysgu, myfyrio a chael eich arsylwi.  Byddwch hefyd yn edrych y tu hwnt i'r dosbarth, tuag at y tirlun addysg ôl-orfodol, ac yn dysgu sgiliau technoleg/animeiddio newydd ar gyfer cyflwyniad asesu.


Ymarfer Addysgu

Mae ymarfer addysgu o fewn y rôl addysgu wrth galon y cymhwyster (50 awr y flwyddyn).  Mae'n darparu'r sylfaen ar gyfer eich dysgu ym mhob modiwl drwy gydol y cwrs.  Yn ystod eich profiad gwaith addysgu, bydd angen i chi arsylwi ymarferwyr eraill, a chymryd rhan fwy eang ym mywyd y sefydliad.

Am wybodaeth am ffioedd a chymorth ariannol ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch Rhan-Amser, cliciwch yma.

Nid oes arholiadau, ac mae 100% o'r asesiadau ar ffurf gwaith cwrs.

Cewch eich asesu mewn ystod o ffyrdd, yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol, yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig.

Bydd y cwrs yn eich helpu chi i fagu hyder a datblygu sgiliau mewn gweithio gydag amrywiaeth o bobl, a defnyddio'r dechnoleg a'r cyfryngau diweddaraf.  Bydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach.

Amseroedd cwrs

Caerdydd - Dydd Iau - 2.00pm - 7.30pm
Y Barri - Dydd Mawrth - 2.00pm - 7.30pm

Gofynion mynediad

Cymhwyster Lefel 3 yn y pwnc y byddwch yn ei addysgu. Ar gyfer pynciau galwedigaethol mae hefyd yn bwysig cael o leiaf 4 mlynedd o brofiad diwydiannol. Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn sicrhau lleoliad addysgu cyn iddynt ddechrau’r cwrs. Rhaid i hyn fod o leiaf 50 o oriau addysgu’r flwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae angen 20 awr y flwyddyn o gyfnod arsylwi tiwtor profiadol ar ymgeiswyr. Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf dylech allu arddangos o leiaf lefel IELTS 6.5 neu gyfwerth (sgôr isafswm o 5.5 ym mhob band). Bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) o’r Rhestr Gweithlu Plant a Gwahardd Plant arnoch hefyd ynghyd â thanysgrifiad i’r gwasanaeth Adnewyddu DBS.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Oherwydd penodau gwahanol mewn bywyd, gadewais yr ysgol, es i’r coleg ac yna’n syth i’r gwaith. Ond addysgu oedd fy angerdd o hyd, felly un diwrnod meddyliais, ‘Beth am fynd amdani’. Dewisais Goleg Caerdydd a’r Fro gan fod ganddo enw da, mae’n lleol ac yn hawdd ei gyrraedd i mi. Dwi wedi mwynhau cael cwrdd â phobl newydd ac mae’r staff wedi bod yn ffantastig.

Muhammad Faiz Azman
Myfyriwr TAR
Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch ddilyn gyrfa fel ymarferydd AHO o fewn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, e.e. Addysg Bellach (AB), Darparwyr Hyfforddiant, Dysgu Oedolion a Chymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.