Diploma Addysg Uwch mewn Perfformio a Recordio

L5 Lefel 5
Llawn Amser
15 Medi 2026 — 21 Mai 2028
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

A hoffech gynyddu eich gallu fel artist perfformio a recordio? A ydych chi’n artist perfformio neu’n gyfansoddwr a chanwr sydd awydd dod yn gerddor proffesiynol?


Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu mewn ymateb i ofynion presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer datblygu eich sgiliau fel perfformiwr a chyfansoddwr, yn ogystal â’ch gwybodaeth dechnolegol a rhoi ichi ddealltwriaeth allweddol am y diwydiant a all eich helpu i ddatblygu eich gyrfa gerddorol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd hanner y cwrs hwn yn canolbwyntio ar berfformio a chrefft llwyfan, wrth i’r hanner arall ymdrin â:

  • chyfansoddi a threfnu caneuon
  • chynhyrchu, cymysgu a recordio mewn stiwdio
  • rheoli, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo

Ein nod yw eich helpu i ddatblygu fel cerddor, perfformiwr ac arweinydd band, a hynny wrth roi dealltwriaeth gadarn ichi am farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo. 

Nid yn unig rydym yn un o’r unig ysgolion sy’n cynnig hyfforddiant personol ar eich offeryn dewisol drwy gydol y cwrs, ond byddwch hefyd yn elwa ar weithdai a sesiynau ymarferol sy’n benodol ar gyfer crefft llwyfan, recordio, cymysgu, cynhyrchu a thrywydd cerddorol.  


Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol dan arweiniad tiwtoriaid sy’n ymarfer yn weithredol mewn busnes cerddoriaeth:


Blwyddyn 1 (Lefel 4):

  • Recordio a Chynhyrchu DAW
  • Arferion y Diwydiannau Creadigol
  • Ymarfer Recordio ar gyfer Perfformwyr
  • Perfformio mewn sefyllfa benodol
  • Golygfeydd Cerddoriaeth Poblogaidd
  • Y Cerddor Cydweithredol

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Hunaniaethau Artistiaid
  • Recordio Cerddoriaeth
  • Arweinyddiaeth mewn Perfformiad
  • Ymchwilio Perfformiad
  • Ysgrifennu a Threfnu Caneuon
  • Datblygu Artist a Brand

Amodau a Thelerau

Cliciwch yma am fwy

Ffïoedd cwrs

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1: £7,703.00

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 2: £7,703.00

Gofynion mynediad

  • 72 pwynt tariff UCAS o un ai:
    Cyrsiau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru: DDD; 

    Diploma Estynedig BTEC Lefel 3: Teilyngdod, Teilyngdod, Llwyddo;

    Diploma BTEC Lefel 3: Rhagoriaeth

  • Yn ogystal â pherfformiad Gradd 6 ar eich offeryn cyntaf, neu lais, ynghyd â gradd 5 mewn theori cerddoriaeth neu lwyddo yn Uned 27 BTEC (theori cerdd a harmoni)

    Os nad ydych yn meddu ar y graddau hyn, ond rydych yn teimlo eich bod wedi cyrraedd y safon ofynnol, gallwch wneud cais ar gyfer y cwrs hwn. Penderfynir ar eich addasrwydd drwy glyweliad y bydd angen i chi ei fynychu.  Bydd y clyweliad yn anffurfiol ac yn cynnwys cyfweliad cyfeillgar. 

  • Yn ogystal â thri TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth)

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster cerdd lefel 3 gyflwyno portffolio. 

Ymgeiswyr hŷn (21+ oed):

Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond mae gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Ystyrir eich cais ar sail unigol.

Mynediad Lefel 5 (blwyddyn 2):

Er mwyn cofrestru ar ail flwyddyn y cwrs yn uniongyrchol, bydd angen ichi ddangos gwybodaeth a phrofiad priodol. Er enghraifft, rydych yn ymgeisydd delfrydol os oes gennych 120 o gredydau israddedig ar Lefel 4 neu CertHE mewn pwnc perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

15 Medi 2026

Dyddiad gorffen

21 Mai 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC5F03
L5

Cymhwyster

Diploma in Higher Education (DipHE) in Music Performance & Recording

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Bydd cwblhau’r rhaglen Diploma Addysg Uwch yn llwyddiannus yn gwahodd mynediad at y Rhaglen Perfformio Cerddoriaeth a Recordio ‘Ychwanegol’ Lefel 6 BMus (Anrh) a ddarperir yn CCAF. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE