DipHE mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth
Ynghylch y cwrs hwn
Ydych chi eisiau ehangu ar eich doniau fel artist sy'n perfformio a recordio? Ydych chi'n artist perfformio neu'n ysgrifennu a chanu caneuon ac eisiau bod yn gerddor proffesiynol?
Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r galw presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu eich sgiliau fel perfformiwr a chyfansoddwr, yn ogystal â'ch gwybodaeth dechnegol, a rhoi i chi ddealltwriaeth hanfodol o'r diwydiant er mwyn adeiladu eich gyrfa gerddorol.
Bydd gennych fynediad at amrywiaeth arbennig o gyfleusterau technegol a stiwdios. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gydag offer proffesiynol a meddalwedd diweddaraf y diwydiant, stiwdio recordio ac ystafell gymysgu â sain amgylchynol, felly mae'n un o'r canolfannau sain gorau yng Nghaerdydd.
Yn dilyn cwblhau’r DipHE yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Perfformio a Recordio Cerddoriaeth (Anrh) Atodol a gynhelir yn y Coleg hefyd, i ennill gradd anrhydedd lawn.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR08, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Bydd un hanner o'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar berfformio a chrefft llwyfan, tra bydd y llall yn mynd i'r afael â'r canlynol:
- ysgrifennu a threfnu caneuon
- recordio, cymysgu a chynhyrchu mewn stiwdio
- rheoli, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo
Ein nod yw eich helpu chi i ddatblygu fel cerddor, perfformiwr ac arweinydd band, wrth roi i chi ddealltwriaeth gadarn o farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo. Yn ogystal â derbyn hyfforddiant unigol ar yr offeryn o'ch dewis drwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa o weithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar grefft llwyfan, recordio, cymysgu, cynhyrchu a chyfeiriad cerddorol.
Yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol sy'n gweithio yn y busnes cerddoriaeth ar hyn o bryd, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (lefel 4):
- Perfformio ar gyfer Recordio
- Theori Recordio
- Arferion Recordio
- Perfformio Sefyllfaol
- Ysgrifennu a Threfnu Caneuon
Deall Diwydiannau Creadigol
Blwyddyn 2 (lefel 5)
- Celfyddyd Perfformio
- Recordio Cerddoriaeth
- Arwain mewn Perfformiad
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Perfformio a Recordio
- Deall Cyhoeddi Cerddoriaeth
- Ac un modiwl dewisol, un ai Sgiliau Busnes ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth neu Addysgu Cerddoriaeth ac Addysgeg.
Mae ein lleoliad, sydd yn agos i'r sin gerddoriaeth fywiog yng Nghaerdydd, yn cynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a rhwydweithio. Byddwn hefyd yn eich annog i gydweithio â cherddorion ac artistiaid eraill yn CAVC er mwyn i chi allu rhoi eich sgiliau ar waith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd byw, gan weithio gyda pherfformwyr mewn amrywiaeth o genres.
Noder: Gallwch wneud cais am y cwrs hwn naill ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol gyda'r Coleg.
Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, defnyddiwch y manylion canlynol:
Cod Cwrs - W330, Cod Prifysgol - W05, Cod Campws - 1
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Gofynion mynediad
- 72 pwynt tariff UCAS o un ai:
Cyrsiau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru: DDD;Diploma Estynedig BTEC Lefel 3: Teilyngdod, Teilyngdod, Llwyddo;
Diploma BTEC Lefel 3: Rhagoriaeth
- Yn ogystal â pherfformiad Gradd 6 ar eich offeryn cyntaf, neu lais, ynghyd â gradd 5 mewn theori cerddoriaeth neu lwyddo yn Uned 27 BTEC (theori cerdd a harmoni)
Os nad ydych yn meddu ar y graddau hyn, ond rydych yn teimlo eich bod wedi cyrraedd y safon ofynnol, gallwch wneud cais ar gyfer y cwrs hwn. Penderfynir ar eich addasrwydd drwy glyweliad y bydd angen i chi ei fynychu. Bydd y clyweliad yn anffurfiol ac yn cynnwys cyfweliad cyfeillgar.
- Yn ogystal â thri TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth)
Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster cerdd lefel 3 gyflwyno portffolio.
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed):
Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond mae gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Ystyrir eich cais ar sail unigol.
Mynediad Lefel 5 (blwyddyn 2):
Er mwyn cofrestru ar ail flwyddyn y cwrs yn uniongyrchol, bydd angen ichi ddangos gwybodaeth a phrofiad priodol. Er enghraifft, rydych yn ymgeisydd delfrydol os oes gennych 120 o gredydau israddedig ar Lefel 4 neu CertHE mewn pwnc perthnasol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rwyf wastad wedi bod eisiau astudio Technoleg Cerdd ac mae’n wych bod y cwrs hwn ar gael yn y coleg. Ni astudiais gerddoriaeth yn yr ysgol ond mae cael y cyfle hwn wedi bod yn wych. Ni chredwn y gallwn ddarllen cerddoriaeth na’i gynhyrchu mor sydyn, ac mae gennyf fy offer fy hun adref hyd yn oed. Mae cymaint o gyfleusterau i fanteisio arnynt, dwy ystafell gynhyrchu, ystafelloedd perfformio, stiwdios ac ystafell ddatganiad lle rydym yn gwneud ein perfformiadau terfynol. Rwyf wedi mynd ymlaen i’r Radd Sylfaen Technoleg Cerdd ac mae hynny wedi bod yn gam ymlaen mawr i mi. Rwyf wir eisiau bod yn gynhyrchydd ond mae’r cwrs hwn wedi agor opsiynau eraill mewn cerddoriaeth i mi – gydag un o’r rheiny yn rheoli digwyddiadau sef beth rwy’n gwyro fwyfwy tuag ato.
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
£4.5 biliwn
Bydd cwblhau'r rhaglen DipHE yn llwyddiannus yn cyflymu mynediad i'r Rhaglen Atodol lefel 6 BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth, a gyflwynir yn CAVC
BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth (Atodol)
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu