Gradd Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adferiad a Thylino

L5 Lefel 5
Llawn Amser
8 Medi 2025 — 14 Mai 2027
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd yr Gradd Sylfaen mewn Cyflyru, Adferiad a Thylino'r Corff mewn Chwaraeon yn darparu cyfle i fyfyrwyr baratoi at weithio yn y diwydiant hamdden a chwaraeon proffesiynol cynyddol.  Bydd hefyd yn datblygu sgiliau sy'n bodloni agweddau ar yr agenda iechyd a lles ehangach.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth ddeallusol a dealltwriaeth o'r disgyblaethau academaidd a chysyniadau allweddol sy'n tanategu Cyflyru, Adferiad a Thylino'r Corff mewn Chwaraeon yn y DU a thramor.  Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau sy'n gwerthuso sail weinyddol paratoadau ac adferiad perfformwyr mewn chwaraeon.  Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol yng nghyflyru ac adfer perfformwyr chwaraeon ac amrywiaeth o feinwe meddal/dulliau tylino.  Nod y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso egwyddorion ymarferion proffesiynol mewn amgylcheddau cystadleuol a heb fod yn gystadleuol yn ogystal â'u paratoi at gyflogaeth a/neu astudiaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwrs wedi'i leoli yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd, sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn gwasanaethu fel canolfan ganolog ar gyfer darpariaeth chwaraeon y coleg.

Mae'r modiwlau yn ymdrin â'r meysydd pwnc canlynol:

  • Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff
  • Cryfder a Chyflyru
  • Tylino mewn Chwaraeon ac Ymarferion Meinwe Meddal
  • Anafiadau Chwaraeon ac Adferiad
  • Ymarfer Ymchwil 
  • Anatomeg ac Asesiad Clinigol 
  • Datblygiad Proffesiynol 
  • Addysgeg Chwaraeon Cymhwysol 
  • Mentergarwch mewn Chwaraeon ac Iechyd 
  • Dulliau amlddisgyblaethol at Chwaraeon ac Iechyd

Bydd y dulliau dysgu ac addysgu yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol a thiwtorialau. Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau gwyddonol, cyflwyniadau, asesiadau ymarferol, asesiadau ar sail gwaith a phortffolios.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau gwyddonol, cyflwyniadau, asesiadau ymarferol, asesiadau ar sail gwaith, portffolios ac arholiadau.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £7,500.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gofynion mynediad

96 pwynt tariff UCAS o leiafswm o 2 gwrs Safon Uwch perthnasol (yn cynnwys Addysg Gorfforol ac un arall) neu Ddiploma Estynedig BTEC (QCF)/ Diploma Cenedlaethol BTEC (NQF).

I ymgeiswyr sy'n ymgymryd â'r Diploma Estynedig neu Genedlaethol, bydd cymwysterau eraill, profiadau a chyflawniadau chwaraeon yn cael eu hystyried. Ar gyfer mynediad ansafonol, cyfweliad llwyddiannus yn arddangos ymrwymiad i astudio, potensial academaidd a thystiolaeth o astudiaeth neu gyflogaeth ddiweddar. Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol.

Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Medi 2025

Dyddiad gorffen

14 Mai 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

14 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

SPHE5F02
L5

Cymhwyster

Foundation Degree in Sport Conditioning, Rehabilitation & Massage

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

8,000

Mae gan Alwedigaethau Chwaraeon weithlu cynyddol o dros 8,000 gydag amcangyfrif o 1,600 o swyddi ychwanegol erbyn 2026 ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd. (Lightcast, 2022).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch fynd ymlaen i gwblhau'r Ddiploma Estynedig 2-flynedd llawn. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau yn y brifysgol, mae eraill yn mynd yn uniongyrchol i gyflogaeth. Mae CAVC yn cynnig HNC mewn Hyfforddi Chwaraeon ac, o'i gwblhau'n llwyddiannus, mae'n arwain at gwrs ychwanegol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd i gwblhau'r cwrs gradd llawn.

Lleoliadau

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ