Mae’r rhaglen HND Artistwaith Gwallt a Cholur yn gymhwyster dilynol arbenigol a ddyluniwyd i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r HNC yn llwyddiannus ac sy’n barod i ddatblygu eu harferion creadigol, technegol a phroffesiynol.
Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer realiti gweithio yn y diwydiant gwallt a cholur, gan ddatblygu hyder, amlbwrpasedd ac ymwybyddiaeth o’r diwydiant. Gan ychwanegu at y sgiliau craidd a ddatblygwyd yn ystod lefel HNC, bydd dysgwyr yn mireinio uwch dechnegau colur a gwallt ar gyfer cyd-destunau golygu ffasiwn, theatr, teledu a ffilm. Bydd myfyrwyr yn edrych ar arferion uwch gwallt a cholur, gan gynnwys steilio cyfoes ac ar gyfer cyfnodau, gwallt â gwead, gwaith postiche a wigiau, edrychiadau ffasiwn a golygu, trawsnewid cymeriad, effeithiau arbennig (SFX) a chreu cymeriadau ffantasi. Trwy arbrofi, profi a mireinio, bydd myfyrwyr yn ennill y cywirdeb a’r hyblygrwydd sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd proffesiynol. Ynghyd â meistroli technegol, mae’r cwrs yn datblygu dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant, gan gynnwys cydweithio, ymddygiad proffesiynol a rheoli gyrfa lawrydd.
Bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau sy’n berthnasol i’r diwydiant, yn cynhyrchu portffolios proffesiynol ac yn ennill dealltwriaeth o’r llwybrau gyrfaoedd yn y sector amrywiol a chystadleuol hwn. Mae arbenigedd o’r diwydiant yn cefnogi addysgu ar y cwrs, gan gynnwys Kirstie Stanway, cyd-sylfaenydd The South West Make-Up Academy, Dylunydd Colur i Casualty ar BBC a beirniad ar Gyfres 6 Glow Up. Bydd Kirstie yn addysgu a chefnogi dysgwyr drwy gydol y rhaglen, gan gynnig hyfforddiant o safon diwydiant, cipolygon proffesiynol ac arweiniad ar fentro i’r diwydiant colur a gwallt, a chynnal gyrfa yn y diwydiant.
Ar ôl cwblhau’r HND, bydd myfyrwyr wedi datblygu uwch sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol, ac yn barod i symud ymlaen at gyflogaeth neu astudiaeth bellach ym myd prysur artistwaith gwallt a cholur.
Datblygiad Proffesiynol Personol - datblygwch a defnyddiwch wybodaeth dechnolegol a sgiliau i gefnogi datblygiad personol: Gan gynnwys:
Yn ogystal â’r meysydd arbenigol hyn, bydd dysgwyr yn ymwneud ag amrywiaeth eang o arferion diwydiant ac uwch dechnegau ychwanegol, gan sicrhau sgiliau cynhwysfawr ac sy’n berthnasol yn broffesiynol.
Ffioedd Dysgu: £6,525.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymwysterau hyn fynd ymlaen at astudio academaidd pellach a chymwysterau proffesiynol, neu ddechrau ar yrfa weinyddol, reoli neu fasnachol.