Bydd yr HND Peirianneg Sifil yn rhoi dealltwriaeth ar lefel uchel i chi o ddyluniad, swyddogaeth, adeiladwaith a gofynion hanfodol adeiladau a strwythurau o bob dosbarth.
Mae'r Diploma Cenedlaethol Uwch yn gymhwyster uchel ei barch yn y sector adeiladu. Mae'r cwrs peirianneg sifil wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn gyflogadwy iawn ac yn ychwanegiad gwerthfawr i sefydliadau o fewn y diwydiant. Mae'r meysydd y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys yr holl bynciau angenrheidiol i fodloni disgwyliadau cyflogwyr, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector heriol a gwerth chweil hwn.
Erbyn diwedd Lefel 5, bydd gan fyfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o'r egwyddorion yn eu maes astudiaeth arbenigol a byddant yn gwybod sut i gymhwyso'r egwyddorion hynny yn ehangach ym myd busnes. Byddant yn gallu perfformio'n effeithiol yn eu maes arbenigol.
Byddwch yn astudio'r 5 modiwl gorfodol canlynol ar y cwrs hwn:
Prosiectau Adeiladau Cymhleth
Byddwch hefyd yn astudio 45 credyd pellach ar lefel 5 a osodir gan y tiwtor.
Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu gan ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiad ymarferol ac arholiadau.
Ffioedd Dysgu: £2,560.00
Cwblhau HNC yn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r HND, gall dysgwyr symud ymlaen i brifysgol i astudio BSc (Anrh) mewn Peirianneg Sifil. Neu fe all symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.