HND mewn Busnes
Ynghylch y cwrs hwn
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn arbenigo mewn cynnig cyrsiau sy'n datblygu entrepreneuriaeth, sgiliau busnes a chyflogadwyedd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes eu hunain neu'n chwilio am yrfa mewn rheoli.
Dyluniwyd yr HND i ddarparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes a'r amgylchedd maent yn gweithredu ynddo. Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar reoli sy'n helpu ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu at rolau rheoli.
Bydd hyn yn apelio i amrywiaeth eang o ymgeiswyr yn cynnwys:
- unigolion sydd wedi gadael yr ysgol
- oedolion sy'n dychwelyd i addysg
- rhai sydd mewn cyflogaeth ac eisiau gwella eu rhagolygon gyrfa
- rhai sy'n hunan-gyflogedig ar hyn o bryd, neu'n dymuno bod yn hunan-gyflogedig ac angen sylfaen eang mewn busnes
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs –BS02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Yn ogystal â bod yn gyfwerth â dwy flynedd o radd prifysgol, mae'r HND mewn Busnes yn gwella'r sgiliau ymarferol a phersonol sydd eu hangen mewn rôl yn y sector. Mae'r cwrs wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion sydd wedi gadael yr ysgol ac ymarferwyr sydd eisiau cyfoethogi eu datblygiad proffesiynol o fewn y diwydiant.
Wedi'i arwain gan diwtoriaid profiadol, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
- Busnes a'r Amgylchedd Busnes
- Hanfodion Marchnata
- Rheolaeth Adnoddau Dynol
- Rheoli a Gweithrediadau
- Cyfrifyddu Rheoli
- Rheoli Prosiect Busnes Llwyddiannus (wedi'i osod gan Pearson)
- Cyfraith Busnes
- Entrepreneuriaeth a Rheoli Busnes Bach
- Prosiectau Ymchwil (wedi'i osod gan Pearson)
- Ymddygiad Sefydliadol
- Cynllunio ar Gyfer Tyfu
Addysgu ac asesiadau
- Mae myfyrwyr yn mynychu am 30 wythnos y flwyddyn ar y rhaglen llawn amser.
- Mae'r rhaglen yn dilyn patrwm modwlar a bydd myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 120 credyd ym mhob blwyddyn academaidd.
- Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth i'r grŵp cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, a beirniadaeth grŵp ac e-ddysgu cyfunol.
- Lle bo'n bosib, mae elfen asesu'r cwrs wedi'i dylunio i efelychu'r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion y rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol. Lle bynnag bo hynny'n angenrheidiol, defnyddir dulliau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiad ffurfiol.
- Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau'r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws yn y diwydiant adeiladu.
- Gall yr ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa weinyddol, rheoli neu fasnachol.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
Gofynion mynediad
48 pwynt tariff UCAS wedi'u hennill drwy gwblhau un ai:
- Cyrsiau Safon Uwch
- Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC neu Ddiploma mewn pwnc perthnasol.
- Diploma Mynediad at Addysg Uwch - 45 credyd lefel 3 mewn pwnc perthnasol.
- Efallai y derbynnir cymwysterau lefel 3 eraill.
- TGAU mewn Mathemateg a Saesneg gyda lleiafswm o radd C (neu 4)
- Mae Ymgeiswyr Rhyngwladol angen IELTS 5.5; ac mae'n rhaid iddynt allu Darllen ac Ysgrifennu hyd at lefel 5.5.
- Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, heb y gofynion mynediad sylfaenol ond rhoddir ystyriaeth i brofiad gwaith perthnasol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch ddod o hyd i gyflogaeth mewn ystod o sectorau neu barhau â'ch addysg yn y brifysgol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu