HND mewn Peirianneg Awyrenegol

L5 Lefel 5
Llawn Amser
16 Medi 2024 — 5 Mehefin 2026
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynghylch y cwrs hwn

Mae awyrofod yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU gyda chyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru ac ar draws y byd.  Mae'r sector wedi profi twf cyson yn ystod blynyddoedd diweddar, ac yn cefnogi nifer cynyddol o swyddi sgiliau uchel a gwerth uchel. Os ydych yn frwd dros awyrennau, neu os ydych eisiau dod yn beiriannydd gyda sgiliau peirianneg eang ac amrywiol, sy'n berthnasol ar draws ystod eang o ddiwydiannau, mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi.

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod.  Byddwch yn cael eich addysgu gan staff peirianneg profiadol sydd â phrofiad perthnasol o'r diwydiant yn y sector peirianneg awyrenegol.

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – AG02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - D, Enw Campws – Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unigolion sydd eisiau symud ymlaen i reoli technoleg awyrofod neu ennill cydnabyddiaeth broffesiynol, drwy symud ymlaen i Statws Peiriannydd Corfforedig. Mae'r cwrs yn ymdrin â 

Blwyddyn 1 (llawn amser) - lefel 4:

  • Dylunio Peirianneg 
  • Mathemateg Peirianneg 
  • Gwyddoniaeth Peirianneg 
  • Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol
  • Aerodynameg Awyrennau
  • Systemau Dosbarthu a Phŵer Trydanol Awyrennau
  • CAD/CAM
  • Systemau Mecanyddol Cyrff Awyrennau

Blwyddyn 2 (llawn amser) lefel 5:

  • Prosiect Ymchwil 
  • Rheoli Peirianneg Proffesiynol
  • Mathemateg Bellach
  • Systemau Rheoli Hedfan Awyrennau
  • Technoleg a Hanfodion Gyriad Awyrennau
  • Systemau Afionig
  • Dyluniad a Pherfformiad Peiriannau Tyrbinau Nwy Awyrennau

Mae'r rhaglen hon yn dilyn patrwm modwlar a bydd myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 120 credyd ym mhob blwyddyn academaidd (cyfwerth ag amser llawn)

  • Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth i'r grŵp cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, a beirniadaeth grŵp ac e-ddysgu cyfunol.
  • Lle bo'n bosib, mae elfen asesu'r cwrs wedi'i dylunio i efelychu'r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion y rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol. Lle bynnag bo hynny'n angenrheidiol, defnyddir dulliau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiad ffurfiol.
  • Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau'r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws yn y diwydiant awyrofod.

Wedi ichi gwblhau'r HND yn llwyddiannus, mae hefyd modd ichi symud ymlaen i ail / trydedd flwyddyn y radd tair blynedd.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau lefel 4 yn llwyddiannus yn ennill HNC mewn Peirianneg Awyrenegol a byddant yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth ddiwydiannol yn y sector awyrofod. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £6,000.00

Gofynion mynediad

  • 48 pwynt tariff UCAS
  • Dwy Lefel A yn cynnwys Mathemateg a phwnc technegol arall, (Ffiseg fel arfer) gydag o leiaf teilyngdod - Diploma Lefel 3 BTEC Cenedlaethol neu Ddiploma Estynedig mewn pwnc perthnasol,
  • Efallai y derbynnir cymwysterau lefel 3 eraill.
  • Efallai caiff myfyrwyr gyda phrofiad gwaith perthnasol eu heithrio rhag gofynion mynediad cyffredin.
  • Mae'n rhaid i holl fyfyrwyr fod yn gymwys mewn Saesneg iaith at safon gyfwerth ag o leiaf gradd 4 (neu C) mewn Saesneg TGAU.
  • IELTS 5.5

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Medi 2024

Dyddiad gorffen

5 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH5F50
L5

Cymhwyster

HND Aeronautical Engineering

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch symud ymlaen i'r BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau yn CAVC.

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP