HND Peirianneg Sifil
Ynghylch y cwrs hwn
Bydd y cwrs HNC mewn Peirianneg Sifil yn rhoi dealltwriaeth lefel uchel i chi o ddyluniad, swyddogaeth, adeiladwaith a gofynion hanfodol adeiladau a strwythurau o bob math.
Mae’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch yn gymhwyster uchel iawn ei barch yn y sector adeiladu. Mae'r cwrs Peirianneg Sifil wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn gyflogadwy iawn ac yn ychwanegiad gwerthfawr at sefydliadau o fewn y diwydiant. Mae'r meysydd y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys yr holl bynciau angenrheidiol i gwrdd â disgwyliadau cyflogwyr, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector heriol a gwerth chweil hwn.
Cynlluniwyd y cwrs i wella eich sgiliau seiliedig ar waith gyda'r bwriad o weithio tuag at swydd Uwch Dechnegydd.
Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o egwyddorion peirianneg, TG a sgiliau personol, a'r gallu i'w cymhwyso trwy gyfrwng gwaith dylunio a phrosiect.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol:
Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)
Uned 2: Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 3: Yr Amgylchedd Adeiladu
Uned 4: Tirfesur, Mesur a Gosod Allan
Uned 6: Mathemateg ar gyfer Adeiladu
Uned 10: Egwyddorion Ynni Amgen
Uned 25: Technoleg Peirianneg Sifil
Uned 27: Egwyddorion Dylunio Strwythurol
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Gofynion Mynediad
48 o Bwyntiau Tariff UCAS o’r llwybrau a restrir isod:
- Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd
- Adeiledig (neu bwnc cysylltiedig)
- Proffil TAG Lefel Uwch sy’n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae’r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A*-C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau megis Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau Lefel 3 eraill cysylltiedig
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch wedi’i ddyfarnu gan sefydliad addysg bellach cymeradwy.
- Cymhwyster rhyngwladol cyfatebol o’r uchod.
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad oes gennych y cymwysterau a restrir uchod, ond bod gennych brofiad perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol.
Dulliau addysgu ac asesu
Bydd y rhaglen yn cael ei dysgu trwy ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Asesir y rhaglen trwy ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiadau ymarferol ac arholiadau.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r HNC, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cwrs HND mewn Mesur Meintiau neu fynd yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu