HNC mewn Rheoli Adeiladu
Ynglŷn â'r cwrs
Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro bydd y cwrs HNC Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn eich helpu chi i ennill dealltwriaeth dda o'r egwyddorion technegol, cyfreithiol a gwyddonol o adeiladu. Mae seminarau a darlithoedd yn cael eu cefnogi gan ymweliadau â safleoedd adeiladu fydd yn dod â'ch astudiaethau'n fyw. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan staff arbenigol sydd â phrofiad proffesiynol o weithio ar ddatblygiadau tai, masnachol a seilwaith sylweddol, yn ogystal â meddu ar wybodaeth weithredol wych am y diwydiant adeiladu.
Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro mae gennym gysylltiadau agos fydd yn rhoi cysylltiadau gwerthfawr i chi, ac yn rhoi cyfle i chi ennill cydnabyddiaeth a gwneud cysylltiadau i gyfoethogi eich gyrfa yn y dyfodol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol:
Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)
Uned 2: Technoleg Adeiladu
Uned 3: Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4: Yr Amgylchedd Adeiladu
Uned 5: Gofynion Cyfreithiol a Statudol mewn Adeiladu
Uned 6: Cymwysiadau Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu
Uned 7: Tendro a Chaffael
Uned 8: Mathemateg ar gyfer Adeiladu
Gofynion mynediad
Pump TGAU ar radd C neu uwch i gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg, BTEC Diploma Lefel 3 (PPP) neu gymwysterau cyfatebol mewn pwnc perthnasol. Gall dysgwyr aeddfed gyda chefndir addysgol addas gael eu derbyn ar ddisgresiwn Tiwtor y Cwrs.
Addysgu ac Asesu
Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiadau ymarferol ac arholiadau.
Pwyntiau pwysig
-
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
-
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
-
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
-
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
-
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
-
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
-
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r HNC, gall dysgwyr symud ymlaen i'r cwrs HND mewn Rheoli Adeiladu neu'n uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu