Mae cymhwyster Busnes Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 Pearson yn gwrs achrededig yn y DU sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi i chi gwrs sylfaen cadarn mewn Busnes, ac mae wedi'i anelu at fyfyrwyr sy'n dymuno cael gwybodaeth dda am bob agwedd ar fusnes.
Mae cwrs Busnes Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC Lefel 4 Pearson yn cynnwys y testunau canlynol:
1: Yr Amgylchedd Busnes Cyfoes
2: Prosesau a Chynllunio Marchnata.
3: Rheoli Adnoddau Dynol.
4: Arwain a Rheoli.
5: Egwyddorion Cyfrifeg.
6: Rheoli Prosiect Busnes Llwyddiannus
7: Cyfraith Busnes
8: Mentrau Entrepreneuraidd
48 pwynt tariff UCAS wedi'u hennill o un ai:
Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, heb y gofynion mynediad sylfaenol ond â phrofiad gwaith perthnasol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Byddai cwblhau'r cwrs hwn yn gwella rhagolygon gwaith o fewn sectorau Busnes. Derbynnir y cymhwyster hwn hefyd fel cwrs mynediad i radd yn y DU, Ewrop neu mewn prifysgol ryngwladol.
Ar ôl cwblhau 8 uned ar gyfer yr HNC yn llwyddiannus, gallwch wedyn gwblhau ein cyrsiau HND mewn Busnes.