Pwrpas Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch BTEC Pearson mewn Ymarfer Gofal Iechyd yw datblygu myfyrwyr fel unigolion proffesiynol, hunan-adlewyrchol sy’n gallu cwrdd â gofynion cyflogwyr yn y sector gofal iechyd ac addasu i fyd sy’n newid o hyd. Nod y cymwysterau yw ehangu mynediad i addysg uwch a gwella rhagolygon gyrfa’r rhai sy’n ymgymryd â hwy.
Ar Lefel 4 mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth eang o agweddau allweddol ar letygarwch trwy bum uned graidd, sy’n cynnwys un uned a aseswyd gan aseiniad a osodwyd gan Pearson. Yr unedau yw:
Hanfodion Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Iechyd ac Afiechyd
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
3 Lefel A neu gyfwerth mewn pynciau perthnasol, neu gymhwyster lefel 3 - Diploma Mynediad neu Ddiploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant. Rhaid cwblhau gwiriad DBS manwl cyn dechrau’r cwrs, trwy broses ddatgelu CCAF.
Asesir dysgwyr ar y cwrs drwy gyfuniad o arsylwadau gweithle a Phortffolio Dysgu a Datblygiad Proffesiynol, ynghyd ag unedau a phrosiect ymchwil a asesir yn allanol.
Disgwylir i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 225 awr y flwyddyn o brofiad gwaith mewn lleoliad addas, felly mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) estynedig llawn yn ofynnol ar ddechrau’r cwrs.
Campws canol y ddinas yw campws mwyaf CAVC ac mae ganddo amrywiaeth eang o gyfleusterau i ddysgwyr eu mwynhau.
Bydd gan fyfyrwyr y cwrs hwn fynediad i Uned AU bwrpasol sy’n cynnwys Canolfan Dysgu Sgiliau (LSC) o safon uchel, ardal gymdeithasol i fyfyrwyr AU, mynediad at gyfleusterau TG a pharth astudiaeth dawel.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.