Gradd Sylfaen mewn Seicoleg
Ynglŷn â'r cwrss
Mae seicoleg yn wyddoniaeth byd real, cyffrous sy’n rhoi gwybodaeth unigryw am sut rydyn ni fel pobl yn ymddwyn. Ar gampws y Barri ar Heol Colcot, y Radd Sylfaen yma mewn Seicoleg yw’r unig un o’i bath yn y rhanbarth ac mae’n cyfuno astudiaethau academaidd gyda lleoliadau gwaith er mwyn tynnu sylw at y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau penodol y coleg, mae’r rhaglen hon yn gyfle i ddisgyblion roi cynnig ar offer arbenigol a meddalwedd wyddonol drwy gyfrwng sesiynau gwadd ar Gampws Pontypridd Prifysgol De Cymru. Mae llawer o swyddi heddiw’n rhoi seicoleg ar waith, o reolaeth ac adnoddau dynol i reoli llawr ffatri neu redeg busnes, gyda’r diwydiant yn cynnig cyfleoedd cyffrous amrywiol i unigolion.
Mae cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn arwain at Dystysgrif Addysg Uwch, mae cwblhau'r ddwy flynedd yn golygu bod myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen at radd lawn gan ymuno ag ail flwyddyn y cwrs BSc Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – GP01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - B, Enw Campws – Campws y Barri
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd y cwrs yma’n eich dysgu chi am wahanol ddulliau seicolegol, yn eich helpu chi i ddatblygu sgiliau ar gyfer ymchwilio i faterion seicolegol, a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio theori drwy baratoi ar gyfer modiwl gwaith.
Blwyddyn 1
- Dulliau Damcaniaethol i Seicoleg
- Cyflwyniad i Ymchwil yn Defnyddio Ystadegau mewn Seicoleg
- Seicoleg Wybyddol
- Seicoleg mwn Bywyd Bob Dydd
- Seicoleg Fiolegol
- Gwahaniaethau Unigol a Dysgu
Blwyddyn 2
- Cyflogadwyedd ac Ymarfer Proffesiynol
- Seicoleg Gymdeithasol
- Datblygiad Plentyndod ac Ieuenctid
- Ymchwil Uwch yn Defnyddio Ystadegau mewn Seicoleg
- Anhwylderau Seicolegol
Un thema allweddol yn y rhaglen hon yw paratoi ar gyfer byd gwaith, sy’n cynnwys darlithoedd gwadd, astudiaethau achos ac efelychu dosbarthiadau, yn ychwanegol at ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a gweithdai ym mlwyddyn 2. Hefyd mae’r myfyrwyr yn cwblhau 70 awr ar leoliad mewn meysydd cysylltiedig â seicoleg sy’n helpu i roi theori ar waith ac ehangu eich dealltwriaeth o lwybrau gyrfaol cysylltiedig. Bydd yr asesu drwy draethodau, gwaith grŵp, prosiectau ymchwil, cyflwyniadau a phortffolios.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd : £45.04
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi.
Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol
- DD Cynnig BTEC Nodweddiadol
- proffil Teilyngdod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol
Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru
- ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc
Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol
- Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol,
Llwyddo mewn tri phwnc TGAU gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Gradd Sylfaen mewn Seicoleg
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i symud ymlaen i ail flwyddyn y BSc (Anrh) Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu