Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch

L5 Lefel 5
Llawn Amser
16 Medi 2025 — 17 Mai 2027
Campws Canol y Ddinas

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch yn berffaith i’r myfyrwyr hynny sy’n awyddus i fynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant creadigol. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau dylunio ar draws sawl maes o Ddylunio Cynnyrch yn cynnwys:

  • Dylunio Diwydiannol
  • Dylunio Dodrefn
  • Graffeg Cyfrifiadurol
  • Dylunio Brandiau
  • Dylunio Setiau a Phropiau
  • Dylunio Gofodol

Yn astudio yn stiwdios arbenigol ac ystafelloedd amlgyfrwng y coleg, bydd ymgeiswyr yn datblygu lefel o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ofynnol i gyflawni llwyddiant yn y diwydiant creadigol.

Darperir y cwrs hwn yn Academi Gelfyddydau Caerdydd, sydd wedi'i lleoli o fewn tafliad carreg i gampws Canol y Ddinas.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ganolog i'r ymarfer fydd astudio deunyddiau a phrosesau gweithdy i greu modelau a phrototeipiau, syniadau critigol, modelu cyfrifiadurol 3D, cyfathrebu gweledol a dylunio hanesyddol a chyfoes mewn cyd-destun. Mae strwythur y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi gasglu safbwyntiau busnes cryf a chyflawni lleoliadau gwaith yn y diwydiant. Arweinir y rhaglen trwy brosiect ac mae wedi ei leoli yn y stiwdio gyda chyfuniad o weithdai technegol, darlithoedd, seminarau a gwaith stiwdio dan oruchwyliaeth, ac mae asesiadau yn barhaus.

Efallai y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i drydedd flwyddyn y B.A. Gradd (Anrh) yn yr Ysgol Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â:

Dan Perkins
dperkins@cavc.ac.uk

Gofynion mynediad

Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Teilyngdod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol, llwyddo mewn tri phwnc TGAU gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau parhaus ymarferol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Efallai y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i drydedd flwyddyn y B.A. Gradd (Anrh) yn yr Ysgol Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd.