Mae ein cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch yn berffaith i’r myfyrwyr hynny sy’n awyddus i fynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant creadigol. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau dylunio ar draws sawl maes o Ddylunio Cynnyrch yn cynnwys:
Yn astudio yn stiwdios arbenigol ac ystafelloedd amlgyfrwng y coleg, bydd ymgeiswyr yn datblygu lefel o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ofynnol i gyflawni llwyddiant yn y diwydiant creadigol.
Darperir y cwrs hwn yn Academi Gelfyddydau Caerdydd, sydd wedi'i lleoli o fewn tafliad carreg i gampws Canol y Ddinas.
Yn ganolog i'r ymarfer fydd astudio deunyddiau a phrosesau gweithdy i greu modelau a phrototeipiau, syniadau critigol, modelu cyfrifiadurol 3D, cyfathrebu gweledol a dylunio hanesyddol a chyfoes mewn cyd-destun. Mae strwythur y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi gasglu safbwyntiau busnes cryf a chyflawni lleoliadau gwaith yn y diwydiant. Arweinir y rhaglen trwy brosiect ac mae wedi ei leoli yn y stiwdio gyda chyfuniad o weithdai technegol, darlithoedd, seminarau a gwaith stiwdio dan oruchwyliaeth, ac mae asesiadau yn barhaus.
Efallai y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i drydedd flwyddyn y B.A. Gradd (Anrh) yn yr Ysgol Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd.
Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â:
Dan Perkins
dperkins@cavc.ac.uk
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Teilyngdod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol, llwyddo mewn tri phwnc TGAU gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Efallai y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i drydedd flwyddyn y B.A. Gradd (Anrh) yn yr Ysgol Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd.