Mae’r Radd Sylfaen Cyfathrebu Graffeg hon yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi gael gyrfa yn y celfyddydau graffeg. Ar ôl cwblhau’r ail flwyddyn, mae’n bosib y byddwch yn dewis ychwanegu at eich cymhwyster er mwyn cael gradd BA drwy astudio’r flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs –CR05, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - B, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Darperir y cwrs hwn yn Academi Gelfyddydau Caerdydd, sydd wedi'i lleoli o fewn tafliad carreg i gampws Canol y Ddinas.
Mae’r cwrs hwn yn annog myfyrwyr i astudio ystod lawn o bynciau Dylunio Graffeg, gan ymgorffori ffurfiau traddodiadol a newydd o gyfathrebu. Mae wedi ei seilio ar greadigrwydd ac yn cynnwys ystod eang o sgiliau datrys problemau sy’n berthnasol i’r maes addas: argraffu (digidol a thraddodiadol), ffotograffiaeth, gwybodaeth, golygu a dylunio cyhoeddusrwydd, dylunio a chynllunio gwefan rhyngweithiol. Mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar ddiwydiant ac mae ganddynt gysylltiadau â chwmnïau dylunio lleol. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys amrywiaeth o friffiau masnachol ac arbrofol.
Mae Cyfathrebu Graffig yn ddisgyblaeth gyffrous sy'n uno sgiliau syniadau creadigol gydag ystod eang iawn o gyfryngau ymarferol, o wneud marciau gyda phensil a phapur i raglenni meddalwedd cyfredol. Bydd unigolion yn astudio ystod eang o dechnegau cyfryngau creadigol, yn cynnwys llunio delweddau naratif, dylunio cynllun a delwedd symudol.
Beth yw Gradd Sylfaen?
Mae Graddau Sylfaen yn integreiddio dysgu academaidd a seiliedig ar waith trwy gydweithredu rhwng cyflogwyr a darparwyr rhaglenni. Eu bwriad yw i ddarparu dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r diwydiant ac i annog cyfranogiad gan ddysgwyr nad ydynt o reidrwydd wedi ystyried astudio am gymhwyster lefel uwch yn flaenorol. Mae Graddau Sylfaen yn darparu cymhwyster unigol, ond hefyd yn cynnwys cyfleoedd cynnydd ar gyfer astudio pellach. Am ragor o wybodaeth ynghylch nodweddion diffiniol Graddau Sylfaen, gallwch gyfeirio at Ddatganiad Meincnodi Graddau Sylfaen yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA).
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich portffolio o brofiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried mewn cyfweliad. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn, ac o ran mynediad sylfaenol mae angen lleiafswm o 48 pwynt tariff UCAS, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y cynigion isod: Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Llwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol Yn ogystal â Llwyddo ar lefel TGAU mewn tri phwnc gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus gydag Arweinydd y Cwrs, neu aelod arall o'r tîm, hefyd fod yn ofynnol er mwyn cael mynediad ar y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn y cwrs BA (Anrh) Dylunydd Artist: Gwneuthurwr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.