Mae ein cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn gyfle gwych i’r myfyrwyr hynny sy’n awyddus i fynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant gemau. Yn astudio yn ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon wedi ei chynllunio gydag arbenigwyr mewn gemau cyfrifiadurol, ac yn darparu addysg arbenigol i’ch helpu i lwyddo yn y sector gynyddol hwn. Gyda disgwyliadau ar gyfer graffig a chwarae realistig a chreadigol yn cynyddu, bydd disgyblion yn dysgu sut i ddod â’u syniadau yn fyw i greu'r genhedlaeth nesaf o gemau cyfrifiadurol. Wedi ei leoli yn ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth dechnegol, yn ogystal â datblygu eu dawn greadigol a sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Yn astudio yn stiwdios arbenigol ac ystafelloedd amlgyfrwng y coleg, bydd ymgeiswyr yn archwilio cefndir gemau a’r broses o greu gemau, tra'n dysgu am y gwahanol feysydd dan sylw, megis cynhyrchu asedau, mecanwaith gemau, estheteg a pheiriannau.
Mae modiwlau'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys:
Cewch ddefnyddio cyfrifiaduron cryf i7/i9, Cardiau Graffeg RTX3000 NEWYDD a monitorau 28" 4K ynghyd â meddalwedd safon diwydiant; Adobe Master Suit, Autodesk 3DSMax, Maya, Unreal Engine 4/5, Cinema 4D, Substance Painter a Pixologic ZBrush, i gynhyrchu Celf a Dyluniadau eich Gêm. (Mwy o feddalwedd ar gael ar gais.)
Mae modiwlau'r ail flwyddyn yn cynnwys:
Mae'r cwrs hwn yn addas i ystod o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn Dylunio Gemau yn cynnwys; Rhaglenwyr Gemau fydd â mynediad a chymorth mewn GML a Glasbrint UE4, ac artistiaid Gemau yn defnyddio amrywiaeth o feddalwedd arbenigol 3D, llechi graffeg ac argraffwyr 3D, ac mae dylunio lefelau, datblygu stori ac animeiddio hefyd yn feysydd y gellir eu harchwilio yn ystod y cwrs.
Darperir y cwrs hwn yn Academi Gelfyddydau Caerdydd, sydd wedi'i lleoli o fewn tafliad carreg i gampws Canol y Ddinas.
Mae Celf a Dylunio gemau yn ddiwydiant cystadleuol cyffrous sy'n ffynnu. Bydd yn rhaid i chi weithio'n galed a meithrin y sgiliau i'ch lefel bersonol orau er mwyn cyfoethogi'ch profiad proffesiynol, a datblygu eich portffolio celf a dylunio gemau. Mae'r Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau'n para dwy flynedd, a'i bwriad yw rhoi blas i chi o'r amrywiaeth o feysydd mewn 'Celf a Dylunio Gemau'.
Byddwch yn archwilio cefndir chwarae gemau a'r broses o greu gemau, gan astudio gwahanol feysydd megis cynhyrchu asedau, mecaneg gemau, estheteg a pheiriannau. Bydd y modiwlau'n cynnwys profiadau ymarferol o greu gemau digidol 3D, theori gemau ysgrifenedig a darlunio ar gyfer gemau. Cewch hefyd gyfle i ennill profiad drwy leoliad gwaith neu brosiect efelychol diwydiannol, gan ddatblygu'ch sgiliau wrth weithio gyda chleientiaid a busnesau.
Yn ogystal â dosbarthiadau a gweithdai ymarferol, byddwch yn cael darlithoedd sy'n trafod pynciau megis diwylliant gemau digidol. Ceir darlithoedd gwadd gan arbenigwyr o'r diwydiant a chyfle i ymwneud â chyflogwyr. Mae'r opsiwn i fynd ar leoliad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddatblygu'ch sgiliau ymhellach ar gyfer y diwydiant, a gwella'ch cyfleoedd gwaith.
Cewch gyfle i edrych ar gategorïau gemau gwahanol; art attack, cysyniadau a dylunio, ymarfer technegol, archwilio gemau, briffiau byw dylunio gemau a llawer mwy. Yn ystod y broses gyfweld neu'r broses ddethol yn yr Atriwm yng Nghaerdydd, fe gynigir lle i'n myfyrwyr gwblhau trydedd flwyddyn dilynol ym Mhrifysgol De Cymru a dilyn y Radd BA(Anrh) Celf Gemau neu'r Radd BA(Anrh) Dylunio Gemau. Bydd rhai yn cael gwaith yn syth, yn cwblhau hyfforddiant neu'n cael interniaethau, tra bydd eraill yn dechrau eu busnesau eu hun neu'n gweithio'n 'llawrydd'.
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Bydd yr ymgeiswyr i'r cwrs yn cael eu hystyried ar sail unigol. Manylir ar y gofynion mynediad arferol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Mae cyfuniadau o'r isod yn dderbyniol ac efallai y bydd cymwysterau eraill sydd heb eu rhestru'n dderbyniol hefyd. Cynnig Lefel A nodweddiadol – DD Cynnig BTEC nodweddiadol - proffil BTEC lefel 3 perthnasol - Clod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol - Gradd C a D/E Lefel A Cynnig Mynediad i AU nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 60 credyd yn gyffredinol i gynnwys 45 o gredydau lefel 3 a llwyddo ym mhob un. Hefyd, llwyddo mewn TGAU mewn tri phwnc Gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Efallai y bydd cyfweliad llwyddiannus yn ofynnol hefyd ar gyfer mynediad ar y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi gwblhau’r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i flwyddyn olaf gradd BA (Anrh) Celf Gemau neu BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Prifysgol De Cymru, ble bydd cyfle i hybu eu sgiliau mewn maes penodol ymhellach.