HNC mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Ynghylch y cwrs hwn
Yn Coleg Caerdydd a'r Fro bydd y cwrs HNC Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn eich helpu chi i ennill dealltwriaeth dda o'r egwyddorion technegol, cyfreithiol a gwyddonol o adeiladu. Mae seminarau a darlithoedd yn cael eu cefnogi gan ymweliadau i safleoedd adeiladu fydd yn gwireddu eich astudiaethau. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan staff arbenigol sydd â phrofiad proffesiynol o weithio ar ddatblygiadau tai, masnachol a seilwaith sylweddol, yn ogystal â meddu ar wybodaeth weithredol wych am y diwydiant adeiladu.
Yn Coleg Caerdydd a'r Fro mae gennym gysylltiadau agos fydd yn rhoi cysylltiadau gwerthfawr i chi, ac yn rhoi cyfle i chi ennill cydnabyddiaeth a gwneud cysylltiadau i gyfoethogi eich gyrfa yn y dyfodol.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CB01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol:
Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)
Uned 2: Technoleg Adeiladu
Uned 3: Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4: Yr Amgylchedd Adeiladu
Uned 5: Gofynion Cyfreithiol a Statudol mewn Adeiladu
Uned 6: Cymwysiadau Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu
Uned 7: Tendro a Chaffael
Uned 8: Mathemateg ar gyfer Adeiladu
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
Gofynion mynediad
48 o Bwyntiau Tariff UCAS o'r llwybrau a restrir isod:
- Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (neu bwnc cysylltiedig)
- Proffil TAG Lefel Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG; mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau fel Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy
- Cymhwyster rhyngwladol sy’n gyfwerth a’r uchod.
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad oes gennych y cymwysterau a restrir ond bod gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. PPE/Offer sydd ei angen: Gliniadur, Esgidiau Diogelwch, Llyfr Nodiadau, Deunydd Ysgrifennu, cof bach USB
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau'r HNC, gall dysgwyr symud ymlaen i'r cwrs HND mewn Rheoli Adeiladu neu'n uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu