Gwasanaethau Trin Gwallt

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Trin Gwallt (QCF) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel triniwr gwallt/steilydd iau cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Wedi’i leoli ar gampws Heol Colcot yn y Barri, mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Trin Gwallt Lefel 2, ac fe'i cydnabyddir gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt y DU (Y Cyngor Trin Gwallt) fel y safonau addas i baratoi dysgwyr am yrfa yn y sector.

Bydd myfyrwyr yn astudio yng nghyfleusterau arbennig y coleg (gan gynnwys ein hamryw o salonau trin gwallt masnachol), ac mae’r rhaglen hon wedi'i strwythuro i roi hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu llwybr gyrfa dynodedig fel triniwr gwallt/steilydd gwallt iau. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel triniwr gwallt/steilydd iau:

Iechyd a diogelwch
Ymgynghoriadau â chleient
Golchi a chyflyru gwallt
Torri
Chwythsychu a steilio
Lliwio
Uned torri gwallt dynion

Mae’r unedau hyn i gyd yn orfodol.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol, gan gynnwys:

Permio
Plethu a throelli gwallt
Dyletswyddau derbynfa
Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau i gleientiaid

Mae meysydd ychwanegol eraill yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys Sgiliau Allweddol mewn Llythrennedd a Rhifedd neu Lythrennedd Digidol/Cyflogadwyedd.
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'u cymhwyster llawn amser, yn ogystal ag ymgymryd â 4 dydd Sadwrn yn y salon ar Gampws Caerdydd ar sail rota, a byddant hefyd yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu sgiliau a gallu galwedigaethol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

3 Gradd TGAU A*- D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, Lefel 1 wedi’i chyflawni’n llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i arddangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da NEU Addysg a phrofiad gwaith blaenorol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCR2F20
L2

Cymhwyster

VTCT Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ