Byddwch yn ymwybodol, yn dibynnu ar argaeledd yn y clinig, efallai y bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal ar gampws Canol y Ddinas neu gampws y Barri.
Mae'r Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Tylino Chwaraeon (QCF) yn gymhwyster technegol a anelir at ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel Therapydd Tylino Chwaraeon.
Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddylunio’r arbennig ar gyfer y grŵp oedran 16-19, ond gall oedolion 19 oed a hŷn hefyd gyflawni’r cwrs, ac mae’n seiliedig ar y safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer tylino, yn enwedig CNH1, CNH7 and CNH20. Yn astudio yng nghyfleusterau pwrpasol y Coleg, datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd â’r sefydliadau canlynol:
• Active IQ
• Cymwysterau YMCA Canolog
• CIBTAC
• ITEC
• VTCT
gyda mewnbwn gan y diwydiant drwy Complementary and Natural Healthcare Council (CNHC) a’r General Council for Massage Therapies (GCMT).
Mae’r cwrs yn gofyn am bresenoldeb 3 awr yr wythnos yn y coleg, yn y prynhawn neu gyda'r nos. Diwrnod ac amser i'w cadarnhau wrth ymrestru. Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 100 awr o ymarfer yn ystod y cwrs, gydag ychydig o’r oriau hynny i'w cwblhau y tu hwnt i’r coleg.
Bydd yn ofynnol i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) bob amser yn y salonau a'r clinig.
Rhaid gwisgo gwisg lawn, a bydd yn rhaid i’r dysgwr ei phrynu – Du neu las tywyll trowsus tracsiwt, du neu las tywyll crys-t ac esgidiau ymarfer glân (dim legins na festiau).
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon fel therapydd tylino chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys:
• Anatomeg a Ffisioleg (modiwl hunan-astudio yw hwn)
• Ymarfer Proffesiynol
• Dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a ffitrwydd
• Sut i ddarparu triniaethau tylino chwaraeon
Bydd y Therapydd Tylino Chwaraeon Lefel 3 yn gallu gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol ar feinweoedd camweithredol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, yn ystod digwyddiad ac at ddibenion cynnal a chadw.
Mae strwythur y cymhwyster yn cynnwys 5 uned, pob un ohonynt yn orfodol:
• Anatomi a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon
• Iechyd a Ffitrwydd
• Deall egwyddorion camweithrediad meinweoedd meddal
• Ymarfer proffesiynol mewn tylino chwaraeon
• Triniaethau tylino chwaraeon
Bydd sail yr asesiad yn ymarferol; mae angen astudiaethau achos ar gyfer portffolio tystiolaeth o gymhwysedd gyda phapur allanol i arddangos cymhwysedd gwybodaeth.
Ffi Cwrs: £163.00
Ffi Arholiad : £122.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Tystiolaeth neu wybodaeth am gymwysterau mewn Anatomi a Ffisioleg, neu'r gallu i gwblhau hyn fel hunanastudiaeth fel rhan o'r cwrs.
Lefel 4 Tylino Chwaraeon.