Byddwch yn ymwybodol, yn dibynnu ar argaeledd yn y clinig efallai y cynhelir y cwrs hwn ar gampws Canol y Ddinas neu gampws y Barri.
Mae'r Diploma Lefel 4 VTCT mewn Therapi Tylino Chwaraeon (QCF) yn gymhwyster technegol a anelir at ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel Therapydd Tylino Chwaraeon, naill ai cyflogedig neu hunan-gyflogedig ac mae’n seiliedig ar y safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer tylino, yn enwedig CNH1, CNH7 a CNH20.
Mae’r cwrs yn gofyn am bresenoldeb 3 awr yr wythnos yn y coleg, yn y prynhawn neu gyda'r nos, diwrnod ac amser i'w gadarnhau wrth ymrestru. Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 100 awr o ymarfer yn ystod y cwrs, gydag ychydig o’r oriau hynny i'w cwblhau y tu hwnt i’r coleg.
Bydd yn ofynnol i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol bob amser yn y salonau a'r clinig.
Rhaid gwisgo gwisg lawn, a bydd yn rhaid i’r dysgwr ei phrynu – Du neu las tywyll trowsus tracsiwt, du neu las tywyll crys-t ac esgidiau ymarfer glân (dim legins na festiau).
Datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd gyda'r sefydliadau canlynol; Active IQ, Central YMCA Qualifications, CIBTAC, ITEC and VTCT gyda mewnbwn gan y diwydiant drwy Complementary and Natural Healthcare Council (CNHC) a’r General Council for Massage Therapies (GCMT).
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon fel therapydd tylino chwaraeon.
Mae hyn yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, ymarfer proffesiynol, dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a ffitrwydd a sut i ddarparu triniaethau tylino chwaraeon.
Bydd y Therapydd Tylino Chwaraeon Lefel 4 yn gallu gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol ar feinweoedd camweithredol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, yn ystod digwyddiad ac at ddibenion cynnal a chadw ac anafiadau.
Mae strwythur y cymhwyster yn cynnwys 3 uned sef:
• Cynnal asesiad goddrychol a gwrthrychol
• Darparu technegau tylino chwaraeon i atal a rheoli anafiadau
• Dulliau trin i gefnogi adferiad meinweoedd meddal
Ffi Arholiad : £88.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £217.00
Cymhwyster Tylino Chwaraeon Lefel 3 Cymhwyster tylino Lefel 3 (bydd hyn yn gofyn am hunan-astudio ychwanegol yn ystod y cwrs).