Mae'r cwrs wedi cael ei ddylunio ar gyfer unigolion rhwng 16-19 oed, nad oes ganddynt brofiad, ac unigolion sydd wedi gadael yr ysgol, sydd wedi astudio'r Dystysgrif Trin Gwallt yn yr ysgol, ac eisiau symud ymlaen at y diploma a’r diwydiant trin gwallt.
Mae'r rhaglen wedi’i strwythuro i roi hyblygrwydd i ddysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt a/neu Harddwch.
Yn cynnwys: Tystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt a Barbro (601/5885/2) + Triniaeth llaw a Thraed NVQ Lefel 2 Tystysgrif mewn Triniaethau Ewinedd (500/8915/8).
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau'r dysgwyr yn y canlynol:
Yn ogystal â bod yn gyfrifol am leihau risgiau at iechyd a diogelwch, paratoi ar gyfer gwasanaethau gwallt a chynnal ardaloedd gweithio. Bydd hefyd yn cynnwys triniaeth dwylo a thraed Lefel 2.
Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â phrofiad Gwaith mewn Salon/Sba weithredol a phrysur i gyfoethogi eu sgiliau. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y cwrs Llawn amser. Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio ar ddyddiau Sadwrn ar sail rota.
Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.
Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:
Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan staff technegol, ac yn cael eu hasesu ar eu cymhwysedd drwy nifer o ddulliau, gan gynnwys cymhwysedd ymarferol a phortffolio o dystiolaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.
Mae'r meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:
Neu
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu sgiliau galwedigaethol a chymhwysedd.
Wedi cwblhau'r cwrs yn llawn, byddwch yn gallu parhau â'n cyrsiau lefel 2 trin gwallt neu therapi harddwch, neu ein cwrs lefel 2 colur theatraidd.
Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio ar ddyddiau Sadwrn ar sail rota 4 dydd Sadwrn yng nghampws Caerdydd, yn ogystal ag un diwrnod yr wythnos o brofiad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae ffi Salon hefyd £30.00, ffi i brynu cit trin gwallt a fydd (tua £275.00) a chit harddwch a fydd (tua £93.00) Ynghyd ag iwnifform a fydd yn costio oddeutu £60.00.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”
Mae'r cwrs yn gweithio at Lefel 2, fydd yn galluogi myfyrwyr i ennill cymhwyster Lefel 2 yn ystod y flwyddyn ganlynol.