Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster uwch sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant ac sydd wedi’i ddylunio i ddatblygu’r sgiliau cynhwysfawr, y wybodaeth a’r safonau proffesiynol y mae angen i therapydd harddwch â chymwysterau llawn feddu arnynt. Trwy gydol y cymhwyster bydd dysgwyr yn ennill profiad ymarferol gan ddefnyddio ein cynhyrchion, ein cyfarpar a’n technegau proffesiynol mewn amgylchedd clinig go iawn. Mae’r cymhwyster yn rhoi’r arbenigedd ymarferol, y ddealltwriaeth ddamcaniaethol a’r hyder proffesiynol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ragori yn y diwydiant therapi harddwch.
Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cadarn ar gymhwysedd ymarferol, sgiliau ymgynghori, anatomeg a ffisioleg a thriniaethau effeithiol a diogel i gleientiaid. Yr unedau dan sylw: Tylino’r corff, electrothermi’r wyneb a’r corff, meicrodermabrasiwn, tylino cerrig poeth, lliw haul ac estyniadau amrannau. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau, arholiadau ar unedau, arddangosiadau ymarferol. Mae’r holl ddysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau gweithio’n hwyr a sesiynau dydd Sadwrn yn eu tro a hynny’n rhan o’u haddysg sy’n ymwneud â gwaith. Mae Sgiliau Hanfodol yn rhan orfodol o’u hastudiaeth
3 Gradd TGAU A*- D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, Lefel 1 wedi’i chyflawni’n llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i arddangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da NEU Addysg a phrofiad gwaith blaenorol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.
Mae cyflawniad llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i fentro i’r byd gwaith fel therapyddion cymwys mewn salonau, sbas, clinigau, llongau mordaith a chanolfannau llesiant. Gall ddysgwyr hefyd symud i lefel 4 estheteg Anfeddygol a datblygu eu sgiliau ymhellach yn y maes triniaethau croen arbenigol.