Elfennau sylfaenol maes Gwallt a Harddwch

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 31 Gorffennaf 2026
Campws Dwyrain Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei baratoi ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac sy'n dymuno dechrau eu gyrfa ym maes Gwallt a Harddwch. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu hyder, gwytnwch, a dealltwriaeth o hunanreolaeth wrth iddynt feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiant Gwallt a Harddwch.  

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda Theilyngdod yn cael symud ymlaen i gwrs naill ai ym maes gwallt neu harddwch dros y flwyddyn ganlynol.  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn rhoi cipolwg ar sut brofiad yw gweithio yn y diwydiant gwallt a harddwch. Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei gynllunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

31 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLEHFHB01
EL3

Cymhwyster

Foundations of Hair and Beauty

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL