Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer tylinwr sydd eisiau datblygu o fewn eu gyrfa. Bydd y cwrs yn arddangos sut i ddefnyddio cerrig poeth o fewn eich triniaethau tylino. Byddwch yn ymgymryd ag asesiad tylino corff llawn, gan ddefnyddio cerrig poeth ac oer. Byddwch yn dysgu am arferion iechyd, diogelwch a hylendid tylino cerrig poeth, ymgynghori â gwrtharwyddion cleient, darparu tylino cerrig poeth a chyngor gofal gartref.
Cynhelir y cwrs yn ein salon o safon y diwydiant, urbasba – www.urbasba.co.uk ac yma byddwch yn cael eich addysgu gan weithiwyr proffesiynol sy'n arbenigwyr yn eu maes.
Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.
Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £114.00
Mae angen i fyfyrwyr gwblhau’r cwrs tylino’r corff cyn iddynt gofrestru ar y cwrs Cerrig Twym.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.