Trwy gydol y cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol ac iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â therapïau esthetig anfeddygol lefel 4. Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i gynghori a thrafod gyda chleientiaid wrth ddarparu triniaethau uwch anfeddygol esthetig. Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid ac yn ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion ac arferion therapïau esthetig anfeddygol lefel 4, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
Byddwch yn mynd i'r afael â'r meysydd canlynol:
Ffi Arholiad : £543.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £210.00
Rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster trydanol wynebol Lefel 3 sy’n gyfwerth â VTCT UB30B14 a rhaid iddynt arddangos lefel dda o wybodaeth ar Lefel 3 mewn Anatomeg, Ffisioleg a phatholegau’r croen.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ddysgu cyfunol yn defnyddio Microsoft Teams a chyflwyniad wyneb yn wyneb ar y safle ar gyfer pob cymhwysiad ymarferol.
Mae angen neilltuo amser i gwblhau modiwlau ac asesiadau dysgu o bell ynghyd â datblygiad sgiliau ymarferol ar y safle.
Disgwylir i chi gwblhau arholiad synoptig diwedd modiwl gydag arholwr allanol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dilyniant o'r cwrs hwn fydd bod yn Ymarferydd Estheteg Uwch mewn Diwydiant.