Mae ein Tystysgrif Lefel 2 mewn Colur Cosmetig yn gwrs cymhwyster harddwch sylfaenol, ac mae’n berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant harddwch.
Bydd myfyrwyr yn astudio nifer o agweddau ar golur cosmetig yn cynnwys:
Gan astudio yng nghyfleusterau Coleg o’r radd flaenaf, yn cynnwys ein hystafelloedd triniaeth harddwch gyda chleientiaid sy’n talu, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol a’r wybodaeth sy’n ofynnol i barhau ar y llwybrau dilyniant o fewn y Coleg, yn ogystal â chyflawni gyrfa lwyddiannus yn y sector. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i roi a derbyn bob triniaeth yn ystod sesiynau ymarferol y cwrs.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio:
Gallai costau ychwanegol gynnwys offer a gwisg - i’w gadarnhau wrth gofrestru.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Arholiad : £80.00
Ffi Cwrs: £250.00
Cyfweliad
15 wythnos - yn dechrau dydd Mercher 10 Ionawr 2023 ac yn gorffen 8 Mai 2023 (4.30pm - 7.30pm).
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”