Mae ein Diploma VTCT Lefel 1 a 2 (PAL) mewn Therapi Harddwch wedi'i dargedu at y dysgwyr hynny sy'n awyddus i weithio a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd masnachol. Dim ond y colegau hynny sydd â salon neu fynediad at salon 'go iawn', yn hytrach nag amgylchedd gweithio realistig, sy’n cael darparu'r cymhwyster hwn. Mae’n cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch, gan gynnwys:
Unedau gorfodol:
• Cynorthwyo gyda gosodiadau yn barod ar gyfer y triniaethau salon a Harddwch
• Triniaethau i'r Wyneb
• Cwyro
• Triniaeth Dwylo
• Triniaeth Traed
• Colur
• Mireinio aeliau a blew amrannau; Siapio aeliau a lliwio aeliau a blew amrannau, amrannau ffug, codi amrannau a thriniaethau pyrm.
• Anatomeg a Ffisioleg
• Iechyd a Diogelwch
• Hufen a Lliw Haul Chwistrell
• Derbynfa
• Gofal Cleientiaid
• Arddangos Stoc
Datblygiad sgiliau pellach:
• Tiwtorial
• Cyfathrebiadau
• Cymhwyso Rhif
Disgwylir i fyfyrwyr gynnal triniaethau ar ei gilydd yn y dosbarth, ar fodelau ac ar gleientiaid sy’n talu fel ymarfer ac ar gyfer asesiadau.
Bydd hefyd angen i fyfyrwyr gwblhau profiad gwaith gorfodol ar bum dydd Sadwrn ar rota ar gampws Canol y Ddinas, a phythefnos o brofiad gwaith masnachol.
Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr angen prynu cit gwisg, cit harddwch, cit colur a llyfr testunau (Cyfanswm oddeutu £500).
Ffi Salon: £30.00
3 TGAU Graddau A* - D gan gynnwys Iaith Saesneg (neu gyfwerth h.y. sgiliau allweddol neu gymwysterau seiliedig ar waith). Fel arall, cyflawni Lefel 1 (Harddwch) yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan Diwtor y Cwrs i nodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da NEU ddysgu blaenorol a phrofiad gwaith.
Aseiniadau, taflenni gwaith ac arholiadau cwestiynau aml-ddewis ar-lein. Asesiadau ymarferol ar gleientiaid.
Asesiad parhaus ac asesiad ymarferol gan gynnwys arholiadau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.
Mae hwn yn gwrs Lefel 1 a 2, sy’n gymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ar hyd a lled y byd. Gall myfyrwyr symud ymlaen i L3 Therapi Harddwch neu L3 colur Theatrig.