Systemau Dŵr Poeth Domestig Thermol Solar

L3 Lefel 3
Rhan Amser
23 Mehefin 2026 — 25 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs yn galluogi ymgeiswyr i ddethol y system solar fwyaf addas ar gyfer adeilad ar sail anghenion y cleient ac i osod a chynnal a chadw unrhyw un o’r systemau sy’n gyffredin yn y Deyrnas Unedig yn ddiogel ac yn effeithiol.

I gofrestru, rhaid ichi fod wedi cyflawni Rheoliadau Dŵr a Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig (Heb eu hawyru) – ar gael trwy gyfrwng ein rhaglen hyfforddi ddynodedig Rheoliadau Dŵr BPEC / /Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig (Heb eu hawyru) 

Rydym yn argymell y dylech gwblhau ein cwrs Systemau Gwresogi Dŵr Poeth Tymheredd Isel cyn cofrestru. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth gadarn ichi o’r systemau dŵr poeth a gwresogi sy’n gweithio ochr yn ochr â systemau dŵr poeth domestig thermol solar a bydd yn eich helpu i elwa i’r eithaf ar eich dysgu. 

Hefyd, rydym yn argymell eich bod yn cofrestru ar ein cwrs Hyfforddiant ar Osod Systemau Pympiau Gwres ar ôl ichi gwblhau’r cwrs hwn, oherwydd bwriedir i’r naill raglen ategu’r llall a meithrin eich sgiliau’n gynyddol. 

Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau eraill a allai fod o ddiddordeb ichi, er enghraifft 

  • Systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hyfforddi yn cynnwys y canlynol:

  • Cyflwyniad i wresogi solar
  • Gwasanaeth a chynnal a chadw
  • Casglwyr solar
  • Storio dŵr poeth a materion allweddol wrth osod
  • Paratoi ar gyfer gosod system wresogi dŵr solar
  • Gosod casglwyr solar
  • Gosodiadau plymio a dyluniad systemau gwresogi dŵr solar
  • Gofynion rheolaeth a phŵer
  • Comisiynu systemau a throsglwyddo i’r cleient
  • Mae’r asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a theori.

Mae’r dystysgrif yn bodloni’r gofynion ar gyfer gweithredwyr MCS.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £65.50

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £540.90

Gofynion mynediad

Dylai fod gan hyfforddeion o leiaf

  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymwaith neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Domestig) neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiadau Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Olew neu ardystiad cynharach cyfatebol; neu
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Nwy neu ardystiad cynharach cyfatebol: neu
  • O leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol amlwg AC os nad yw wedi'i gynnwys yn y cymhwyster uchod:
  • Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr
  • Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb eu hawyru Mae tystysgrifau technegol annibynnol/Cymwysterau Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) (nad ydynt yn seiliedig ar gymhwysedd) yn dderbyniol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

23 Mehefin 2026

Dyddiad gorffen

25 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

24 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

RTCC3PX1AC
L3

Cymhwyster

Solar Thermal Domestic Hot Water Systems

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cwrs Gosodwr Systemau Pwmp Gwres.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE