Mae’r dyfarniad hwn yn rhoi dealltwriaeth i’r dysgwr o'r ffordd y caiff Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan ei roi ar waith. Mae’n darparu cyfleuster i unigolion sy’n gweithio yn y sector electrodechnegol allu datblygu eu dealltwriaeth o osod cerbydau trydan (EV).
Mae asesu’r cymhwyster yn cynnwys yr agweddau canlynol:
Arholiad amlddewis ar-lein - llyfr agored a gall ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifiannell na ellir ei raglennu
Mae dysgu cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â galw uchaf, cyfrifiadau cebl a BS7671, Canllaw ar y Safle a Nodyn Cyfarwyddyd 3.
Ffi Arholiad : £46.00
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £381.29
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer trydanwyr sydd wedi cymhwyso’n briodol yn unig. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg a rhaid iddynt fod wedi cwblhau’r fersiwn ddiweddaraf o’r rheoliadau weirio BS7671 Diwygiad 2022, a chymhwyster ymchwilio a phrofi L3 cyn gwneud cais am y cwrs hwn. Er mwyn ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr fod yn drydanwyr ymarferol a rhaid meddu ar un o'r cymwysterau canlynol: Cymhwyster Trydanol NVQ Lefel 3 a Chymhwyster Tystysgrif AM2 (Crefft) Lefel 3 Gweithwr Electrodechnegol Profiadol a Thystysgrif AM2 (Crefft) NEU Gerdyn Aur ECS cyfredol, fel Trydanwr JIB neu Drydanwr Cymeradwy. NID yw tystysgrifau technegol unigol L2 a L3 yn seiliedig ar y coleg yn unig/Cymwysterau Galwedigaethol (VRQ) yn dderbyniol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyrsiau Systemau Ffotofoltäig Solar Domestig a Systemau Storio Ynni Trydan Lefel 3.