Rheoliadau Dŵr BPEC

L3 Lefel 3
Rhan Amser
4 Rhagfyr 2024 — 4 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Gosodiadau Dŵr) 1999 (Cymru a Lloegr) ac Is-ddeddfau Dŵr 2014 (Yr Alban) ac yn cwrdd â gofynion y WRAS (Cynllun Ymgynghori Rheoliadau dŵr) y mae'r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr y DU yn aelod ohono. Mae yna ddau lawlyfr gwahanol, un ar gyfer Cymru/Lloegr a'r llall ar gyfer yr Alban, gan fod rhai rheoliadau yn wahanol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r Hyfforddiant a'r Asesiadau yn cael eu cynnal yn y ganolfan ac yn para un diwrnod. Fodd bynnag, bydd angen peth astudio annibynnol cyn mynychu.

Bydd ardystiad o'r cwrs yn cyfrannu at rai o ofynion mynediad bodloni'r meini prawf i ymuno â'r cynllun person cymwys e.e. (APHC) lle bydd gofyn am gymhwyster plymio cydnabyddedig.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £92.70

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £96.30

Gofynion mynediad

Anelir yr hyfforddiant at blymwyr ymarferol sy’n dymuno dod yn Gontractwyr Cydnabyddedig (Plymiwr) yn bennaf, drwy ddarparu tystiolaeth ar gyfer y cynlluniau Contractwr Cydnabyddedig i ddangos bod hyfforddiant addas wedi cael ei gwblhau.

Fodd bynnag, gall yr hyfforddiant hefyd fod yn berthnasol i bobl nad ydynt yn dymuno dod yn gydnabyddedig, ond bod eu rôl yn cynnwys cael gwybodaeth ynghylch cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau a’r Is-ddeddfau yn cynnwys dylunwyr, pennwyr a rheolwyr safle.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Rhagfyr 2024

Dyddiad gorffen

4 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

RTCC3PX6
L3

Cymhwyster

BPEC Water Regulations 10

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE