Dylunio Graffeg - UG

cwrs yn llawn
L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2019 — 12 Mehefin 2020
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Dylunio Graffig Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r cwrs yn cynnig amrywiaeth eang o ymagweddau i Ddylunio Graffig i chi, a byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau, yn academaidd ac ymarferol, trwy ddefnyddio meddalwedd graffeg a rhaglenni darlunio soffistigedig. Bydd prosiectau dylunio hefyd yn eich galluogi i gymhwyso potensial creadigol, theori ac ymarfer i ddatrysiadau gweledol, a’u cyfathrebu trwy amrywiaeth o gyfryngau yn cynnwys digidol, sgematig a ffotograffiaeth.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o ymchwiliadau personol. Gallai’r pynciau a astudir gynnwys:

  • Teipograffeg
  • Dylunio logo
  • Dylunio clawr albwm
  • Dylunio clawr llyfr
  • Dylunio poster

Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a thechnegau traddodiadol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C i gynnwys Saesneg a Mathemateg. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniad gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
  • Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
  • Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
  • Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
  • Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2019

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2020

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F08
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Celf a Dylunio

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Fe benderfynais ddod i CAVC i astudio Safon Uwch a dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed. Wedi cwblhau Safon Uwch, dwi'n gobeithio mynd ymlaen i astudio Sŵoleg yn y brifysgol.

Kate Matthews
yn astudio Safon Uwch mewn Celf, Bagloriaeth Cymru, Bioleg a Chemeg

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE