Mae'r cwrs hwn yn ffurfio rhan o'r rhaglen Sixth Form Flex. Dylai dysgwyr sy'n dilyn y rhaglen hon ddewis yr opsiwn hwn os ydynt eisiau cwblhau'r rhaglen Sixth Form Flex er mwyn gwneud cais ar gyfer Drama Safon Uwch, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Astudiaethau'r Cyfryngau ac Astudiaethau Crefyddol, ymhlith eraill.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i rannu'n 3 Uned:
Uned 1: Rhyddiaith a Barddoniaeth
Mae Adran A yn ymwneud â Thestunau Unigol mewn Cyd-destun yn ymwneud â Rhyddiaith Diwylliannau.Gwanhaol.
Mae Adran B yn Astudiaeth Gymharol o Farddoniaeth Gyfoes
Uned 2: Rhyddiaith/Drama Gyfoes a Rhyddiaith/Drama Treftadaeth Lenyddol
Astudiaeth ar destun penodol o Ddrama a thestun penodol o Ryddiaith
Uned 3: Shakespeare a Llenyddiaeth Saesneg Cymru
Adran A: Shakespeare – Astudiaeth o Othello neu Much Ado About Nothing
Adran B: Llenyddiaeth Saesneg Cymru - Barddoniaeth benodol o ddetholiad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o Poetry 1900-2000: One Hundred Poets from Wales. Mae ymgeiswyr yn astudio pymtheg o gerddi penodol sydd wedi'u rhestru ar gyfer thema benodol. Bydd CBAC yn gosod tasgau cyffredinol ynghylch y thema. Efallai y bydd canolfannau'n defnyddio, neu'n addasu un dasg. Mae'n rhaid i ganolfannau sicrhau bod y dasg yn gofyn am gymharu o leiaf dwy gerdd.
Dulliau addysgu ac asesu
4 awr yr wythnos o ddarpariaeth. 2 awr o gyswllt a 2 awr o ddarpariaeth ar-lein.
Asesiad
Uned 1 Rhyddiaith a Barddoniaeth
Adran A - Arholiad Ysgrifenedig 21%
Adran B - Arholiad Ysgrifenedig 14%
Uned 2 Rhyddiaith/Drama Gyfoes a Rhyddiaith/Drama Treftadaeth Lenyddol
Drama – 20%
Treftadaeth Lenyddol – 20%
Uned 3 Shakespeare a Llenyddiaeth Saesneg Cymru
Adran A – 12.5%
Adran B – 12.5%
4 TGAU Gradd A*-D, gan gynnwys Iaith Saesneg.
Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn cael gwahoddiad i Ddigwyddiad Gwybodaeth. Mae mynychu’r digwyddiad yn ofyniad mynediad, ynghyd ag unrhyw beth a nodir uchod. Byddai’n fanteisiol i’ch cais pe gallech ddod â thystiolaeth o’ch graddau a ragwelir neu gymwysterau rydych wedi’u hennill.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau y cwrs blwyddyn hwn, bydd gan fyfyrwyr nifer o opsiynau o ran dilyniant mewnol yn dibynnu ar ganlyniadau pob cymhwyster. Bydd y rhain yn amrywio o fynd ymlaen i gwblhau 3 cymhwyster Safon Uwch gyda Bagloriaeth Cymru, i ddechrau Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn cwrs galwedigaethol. Yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir, bydd hyn yn cynnwys blwyddyn neu 2 flynedd ychwanegol o astudio.