Sylfeini Sgiliau Digidol

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i astudio ymhellach ar gyrsiau sy’n gysylltiedig gyda TG neu’r Cyfryngau. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant, yn ogystal â hyder, cydnerthedd, a dealltwriaeth o hunan-adfyfyrio sy’n angenrheidiol wrth weithio yn y Diwydiannau Digidol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid pwnc arbenigol er mwyn datblygu sgiliau mewn ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau digdol , trin delweddau, dylunio’r we a defnyddio amrywiaeth o feddalwedd briodol.

Yn ogystal â datblygu agwedd amlddisgyblaethol bydd myfyrwyr yn adeiladu ar eu sgiliau o hunan-adfyfyrio gan greu portffolio o’u harfer proffesiynol.

Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn gyda theilyngdod yn gallu symud ymlaen i gyrsiau pellach o fewn y maes cwricwlwm hwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ