Strategaeth E-chwaraeon, Arweinyddiaeth Tîm a Dylunio Twrnameintiau

L3 Lefel 3
Rhan Amser
18 Ionawr 2027 — 1 Mawrth 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i gynllunio, trefnu, a chyflwyno sesiynau e-chwaraeon diogel a diddorol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gêmio ac e-chwaraeon sydd eisiau dyfnhau eu dealltwriaeth o’r diwydiant a dechrau eu taith tuag at yrfa yn y sector cyffrous hwn sy’n ehangu’n gyflym.

Wedi’i gyflwyno ar sail ran-amser, mae’r cwrs yn cynnig hyblygrwydd i’r rhai sy’n cydbwyso astudio a chyflogaeth. Ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth werthfawr o'r diwydiant a sgiliau y mae modd eu trosglwyddo, bydd dysgwyr yn cryfhau eu CV ac yn gwella eu rhagolygon addysg a gyrfa yn y dyf

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ecosystem E-chwaraeon

Mae’r uned hon yn ystyried strwythur y diwydiant e-chwaraeon, gan gynnwys hyfforddi, rheoli tîm, ac arweinyddiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i nodi llwybrau gyrfa posibl a deall y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o rolau o fewn y sector.


Cymunedau E-chwaraeon ac Arferion Moesegol

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar gymunedau ar-lein, ymddygiad proffesiynol, a diogelu. Bydd dysgwyr yn ennill y wybodaeth sydd ei hangen i greu amgylcheddau diogel, cynhwysol a chadarnhaol wrth gyflwyno gweithgareddau e-chwaraeon.


Arweinyddiaeth E-chwaraeon

Mae’r uned hon yn cynnwys prif agweddau arweinyddiaeth o fewn e-chwaraeon, gan gynnwys trefniadaeth twrnameintiau, creu cynnwys, a methodolegau ffrydio. Byd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o sut i sefydlu a rheoli brand personol a phroffesiynol ar-lein.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £25.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £175.00

Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £43.75

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Ionawr 2027

Dyddiad gorffen

1 Mawrth 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Cod y cwrs

BSCC3P19
L3

Cymhwyster

Esport Strategy, Team Leadership & Tournament Design

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE