ESOL+ Gweinyddiaeth Busnes

L2 Lefel 2
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 21 Mehefin 2025
Un Parêd y Gamlas

Ynghylch y cwrs hwn

*Yn amodol ar ddilysiad

Mae’r elfen ESOL o’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau iaith – darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Bydd gramadeg a geirfa arbenigol mewn perthynas â gweinyddu busnes hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu’r meysydd hyn a fydd yn helpu i’w cefnogi gyda’r elfen Gweinyddu Busnes o’r cwrs.

Mae’r cwrs yma ar gael am:

  • 16 awr yr wythnos

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r elfen Gweinyddu Busnes o’r cwrs yn dilyn rhaglen hyfforddiant fodiwlaidd ac mae’n canolbwyntio ar feysydd megis mentergarwch, cyllid, brandio, gwerthiant ac yn y blaen. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o arferion gweithio mewn swyddfa a bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ac astudio yn Ystafell Hyfforddiant Gweithredol y Coleg fel rhan o’u cwrs. Mae’r cwrs hwn yn ffurfio sylfaen yr wybodaeth sy’n ofynnol i fynd ymlaen i gyrsiau lefel uwch ac mae hefyd yn helpu i ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn amgylchedd swyddfa. Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn ESOL a Gweinyddu Busnes. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Rhifedd fel rhan o’r rhaglen; bydd hyn hefyd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig.

Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cyrsiau hyn angen ymrwymo’n llawn gan ein bod yn disgwyl cyfradd presenoldeb o 100%. Bydd myfyrwyr y mae eu presenoldeb yn disgyn o dan 90% yn wynebu’r risg o golli eu lle.

Mae 16 awr o addysgu bob wythnos:

  • 3.5 awr o Weinyddu Busnes
  • 9.5 awr o ESOL
  • 3 awr o Rifedd

Ymhlith yr unedau mae:

  • Ymddwyn mewn Modd Proffesiynol
  • Gweithio mewn Tîm
  • Meddalwedd Prosesu Geiriau
  • Gweithio ym maes Gweinyddu Busnes

Gofynion mynediad

Asesiad ar Lefel 2. Fel dewis arall, cwblhau Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan diwtor i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

17.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Un Parêd y Gamlas
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ESCC2F15
L2

Cymhwyster

Ascentis Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Bywyd Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) (Darllen)

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Symudais o Rwmania ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dechreuais yn y coleg yn astudio cwrs ESOL, ac rwyf nawr wedi symud ymlaen i astudio Cwrs Mynediad mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC. Roedd y cwrs ESOL yn ddefnyddiol iawn, ac roedd pawb yn gyfeillgar.

Rizea Silviana Gabriela
ESOL Lefel 1

Lleoliadau

Un Parêd y Gamlas
Un Parêd y Gamlas

Un Canal Parade,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5BF