Diploma mewn Addysg Uwch (DipHE) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 23 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi eisiau ehangu ar eich doniau fel cynhyrchydd cerddoriaeth electronig? Ydych chi'n artist perfformio neu'n ysgrifennu a chanu caneuon ac eisiau bod yn gynhyrchydd cerddoriaeth?

Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r galw presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu eich sgiliau fel cynhyrchydd a chyfansoddwr, yn ogystal â'ch gwybodaeth dechnegol, a rhoi i chi ddealltwriaeth hanfodol o'r diwydiant er mwyn adeiladu eich gyrfa gerddorol.

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth arbennig o gyfleusterau technegol a stiwdios. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gydag offer proffesiynol a meddalwedd diweddaraf y diwydiant, stiwdio recordio ac ystafell gymysgu â sain amgylchynol, felly mae'n un o'r canolfannau sain gorau yng Nghaerdydd.

Yn dilyn cwblhau’r DipHE yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig a gynhelir yn y Coleg hefyd, i ennill gradd anrhydedd lawn

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR09, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn darparu gwerthfawrogiad trylwyr o rôl cynhyrchu cerddoriaeth electronig wrth greu cerddoriaeth heddiw, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y diwydiannau cerddoriaeth a'r cyfryngau.

Drwy eich astudiaethau theori ac ymarferol, byddwch yn dod i ystyried cerddoriaeth electronig fel ffordd o greu cerddoriaeth sy'n gweddu i amrywiaeth o arddulliau, ac nid fel genre unigol yn unig.  Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd modern i samplo, rhoi trefn ar, cyfosod, cyfansoddi, cynhyrchu ac ailgymysgu sain, yn ogystal ag i greu cerddoriaeth ac arbrofi gyda dylunio sain.  Yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol sy'n gweithio yn y busnes cerddoriaeth ar hyn o bryd, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1 (lefel 4):

  • Synthesis a Samplo
  • Theori Recordio
  • Arferion EDM
  • Dadansoddi Cerddoriaeth Boblogaidd
  • Arferion Recordio
  • Cynllunio i Ryddhau

Blwyddyn 2 (lefel 5):

  • Cynhyrchu Cerddoriaeth Drydanol
  • Cerddoriaeth Fodiwlaidd Newydd
  • Datblygiad Artistig
  • Dulliau Ymchwil
  • Cynhyrchu Hip Hop
  • Cerddoriaeth Drydanol Byw

Mae ein lleoliad, sydd yn agos i'r sin gerddoriaeth fywiog yng Nghaerdydd, yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a rhwydweithio. Byddwn hefyd yn eich annog i gydweithio â cherddorion ac artistiaid eraill yn CAVC er mwyn i chi allu rhoi eich sgiliau ar waith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd byw, gan weithio gyda pherfformwyr mewn amrywiaeth o genres.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £7,500.00

Gofynion mynediad

  • 72 pwynt tariff UCAS o un ai:
  • Cyrsiau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru: DDD 
  • Diploma Estynedig BTEC Lefel 3: Teilyngdod, Teilyngdod, Llwyddo;
  • Diploma BTEC Lefel 3: Rhagoriaeth
  • Yn ogystal â thri TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth)

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster Technoleg Cerdd lefel 3 gyflwyno portffolio. 

Ymgeiswyr hŷn (21+ oed):

Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond mae gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Ystyrir eich cais ar sail unigol.

Mynediad Lefel 5 (blwyddyn 2):

Er mwyn cofrestru ar ail flwyddyn y cwrs hwn yn uniongyrchol, bydd angen ichi ddangos gwybodaeth a phrofiad priodol. Er enghraifft, rydych yn ymgeisydd delfrydol os oes gennych 120 o gredydau israddedig ar Lefel 4 neu CertHE mewn pwnc perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

23 Mai 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC5F04
L5

Cymhwyster

Diploma in Higher Education (DipHE) in E

Mwy...

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Bydd cwblhau'r rhaglen DipHE yn llwyddiannus yn cyflymu mynediad i'r Rhaglen level 6 BA (Anrh) mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig a gyflwynir yn CAVC.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE