Drama - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae hwn yn gwrs astudio blwyddyn a dylid ymgymryd â hwn ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru.  Mae'n bosibl y gellid ymgymryd â'r cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser. Mae'r cwrs hwn yn ddilyniant i'r cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr UG.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr U yn mynd i'r afael â'r ddwy uned ganlynol:

UNED 3: Archwilio Perfformiad Dramatig - 40% (Gwaith Cwrs ac Arholiad Perfformio ym mis Rhagfyr) Bydd myfyrwyr yn cynllunio, ysgrifennu a pherfformio darn gwreiddiol o theatr, ar sail symbyliad gosodedig. Bydd myfyrwyr yn cadw cofnod strwythuredig o'r broses gyfan gan gynnwys y perfformiad a'r ymatebion gan y gynulleidfa.

UNED 4: Testun Theatr mewn Cyd-destun - 60% (Arholiad Ysgrifenedig) Theatrau Groegaidd Cynnar a Shakespearaidd - bydd myfyrwyr yn dysgu'r arddull theatr ar gyfer bob cyfnod a drama a sut mae gwahanol gyfarwyddwyr wedi'u cynhyrchu ers hynny. Byddant hefyd yn archwilio i'w syniadau ei hunain ynglŷn â chyfarwyddo'r dramâu hyn. Dyma'r testunau a astudir:  Lysistrata gan Aristophanes a Romeo & Juliet gan Shakespeare.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F02
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Drama a Theatr

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Celf
  • Drama
  • Chwaraeon

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE