Cyflwyniad i Wnïo

L2 Lefel 2
Rhan Amser
9 Mehefin 2026 — 14 Gorffennaf 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno gwnïo i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gwisgoedd, ffasiwn a thecstilau. Mae’n berffaith i ddechreuwyr neu’r rhai sy’n dymuno rhoi sglein ar eu sgiliau sylfaenol.

Bydd dysgwyr yn magu hyder wrth ddefnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau yn ddiogel, wrth edrych ar ystod o dechnegau gwnïo â llaw a pheiriant. Trwy sesiynau ymarferol dan arweiniad, bydd dysgwyr yn ymarfer sgiliau hanfodol fel semau, hemiau a ffasninau, ac yna’n defnyddio’r technegau hyn i greu eitem decstil wedi’i gorffen.

Mae’r cwrs hwn yn unigryw oherwydd mae’n canolbwyntio ar gymhwyso creadigol, gan annog dysgwyr i ystyried gwnïo fel sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach neu brosiectau creadigol personol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Wythnos 1: Cyflwyniad, Iechyd a Diogelwch, ffabrigau, offer a dechrau portffolio/briff prosiect
  • Wythnos 2: Hanfodion peiriant gwnïo, semau a chreu
  • Wythnos 3: Hemio, gorffen a ffasninau
  • Wythnos 4: Cynllunio prosiect, briff, patrwm, mesur, torri
  • Wythnos 5: Creu, gorffen ac asesu/adolygu

Cyfleusterau

Bydd dysgwyr yn gallu defnyddio gweithdai Ffasiwn a Thecstilau arbenigol. Mae gan y gweithdai hyn beiriannau gwnïo, cyfarpar pwyso ac ystod o offer llaw. Mae mannau stiwdio’n cefnogi ymchwilio creadigol ac arferion gweithio diogel.

Bydd addysgu’n digwydd drwy gyfrwng arddangosiadau ymarferol, gweithdai dan arweiniad a chymorth unigol. 

Bydd y gwaith ymarferol a chwblhau eitem wedi’i gwnïo yn cyfrannu at yr asesiad, ynghyd â thystiolaeth o ddefnyddio o leiaf dau sgil neu dechneg gwnïo, yn unol â gofynion uned CDE872 Agored.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £65.00

Gofynion mynediad

  • Mae’n rhaid i chi allu deall llythrennedd Saesneg yn dda, a deall rhifau yn dda.
  • Mae’n rhaid i chi gael amser y tu hwnt i’r dosbarth i allu parhau i ddatblygu’r portffolio.
  • Mae gallu defnyddio peiriant gwnïo y tu hwnt i’r dosbarth yn ddelfrydol ond nid yw’n angenrheidiol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Mehefin 2026

Dyddiad gorffen

14 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC2P07
L2

Cymhwyster

Introduction to Sewing

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr fwrw ymlaen i gwrs rhan amser arall neu gwrs llawn amser mewn Ffasiwn, Tecstilau neu Gelf a Dylunio. Mae’r cwrs hwn hefyd yn darparu sylfaen gadarn i brosiectau creadigol personol neu ddatblygu sgiliau ar lefel mynediad mewn llwybrau gwisgoedd neu lwybrau sy’n ymwneud â ffasiwn.

Gyrsiau Llawn Amser:

  • Celf a Dylunio Lefel 2
  • Celf a Dylunio Lefel 3
  • Celf a Dylunio Sylfaen 
  • Dylunio Ffasiwn Lefel 3
  • Dylunio Cynnyrch

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE